body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

CASGLU Rhyngwladol

Cynhaliwyd sesiynau CASGLU RHYNGWLADOL o fis Mawrth i fis Tachwedd 2021 i artistiaid rhyngwladol a chwedleuwyr o dair gwlad i’r de o’r Sahara yn Affrica i gychwyn (De Affrica, Ghana, Kenya) i gyfarfod chwedleuwyr o Gymru, rhannu eu gwaith, cyfleu’r themâu ac agendâu creadigol sydd yn eu hysbrydoli a’i diddori, awgrymu pynciau i’w trafod a llunio perthynas â’i gilydd a Gŵyl Beyond the Border.

Cychwynnodd CASGLU yn ystod y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020, fel man cyfarfod anffurfiol ar-lein ar gyfer chwedleuwyr o Gymru bob dydd Gwener ar Zoom - man i gyfarfod pan nad oedd cyfarfodydd arferol yn bosibl ac i drafod pynciau creadigol llosg. Parhaodd y sesiynau, gan redeg am 1- 1.5 awr fel arfer ac yn cael eu harwain gan Gydlynydd Ymgysylltiad Beyond the Border, Tamar Eluned Williams.

Mae’r cyfarfodydd yn fannau bywiog ac anffurfiol, lle bydd y trafodaethau yn cychwyn trwy brocio trafodaeth, ac yna symud i grwpiau llai i gael sgyrsiau manwl a phreifat. Bydd crynodeb o’r trafodaethau bychan yma wedyn yn cael eu rhannu gyda’r grŵp cyfan ar ddiwedd y sesiwn.

Derbyniodd BTB gyllid gan raglen grant Gweithio yn Rhyngwladol Llenyddiaeth y Cyngor Prydeinig, i gynnal chwech o gyfarfodydd rhyngwladol o fis Mawrth 2021 hyd fis Tachwedd, yn canolbwyntio ar ddatblygu cysylltiadau rhwng chwedleuwyr o Gymru a chwedleuwyr yn Ghana, Kenya a De Affrica. Daeth y prosiect 6 mis i’w benllanw trwy gyfnewid storïau ar draws y bartneriaeth fel rhan o ddigwyddiad Deuawdau Creadigol gydag 8 chwedleuwr, 4 o Gymru a 4 o wledydd o dan y Sahara.

Here are just some of the wonderful feedback:

Ailsa Mair:
Cymaint o ysbrydoliaeth gweld y potensial ar gyfer chwedleua ar y cyd.

Kali Ferguson:
Mae hi’n brynhawn yma yn Unol Daleithiau America ac mae wedi cael effaith arnaf a’m gwneud i chwerthin. Cydweithio gwych.

Rachel Murrey:
Noson anhygoel. Rwy’n cael eiliad lle rwyf wedi cael fy rhyfeddu gan dechnoleg a hen chwedlau.

Cefnogir gan

^
Cymraeg