body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Dinefwr

Mae'r lleoliad yn Ninefwr yn gyfoethog mewn hanes chwedleua yn ogystal â harddwch naturiol. O'r eiliad yr ewch ar y lôn hir i lawr i'r ŵyl cewch eich cludo i fyd arall. Mae golygfa ysblennydd o gastell Dinefwr gyda bryniau a golygfeydd godidog sy'n ei wneud yn safle delfrydol a hamddenol ar gyfer ein gŵyl chwedleua.

Byddwn yn plethu ein gŵyl ymysg y tirlun, adeiladau, castell a choetiroedd dros y penwythnos , gyda chyfle i aros ymlaen naill ai ar y safle fel rhan o'r cynnig tocyn neu mewn llety lleol cyfagos.

Mae Llandeilo yn bentref hyfryd gyda siopau, caffes a thafarndai diddorol i’w hymchwilio, ychydig dan filltir o safle’r ŵyl. Mae Dinefwr hefyd yn agos at fannau gwych i dwristiaid eu hymchwilio yn cynnwys Gerddi Botanegol Cenedlaethol Cymru, Aberglasney a Chastell Carreg Cennen yn ogystal â bod wrth droed Bannau Brycheiniog. National Botanical Gardens of Wales, Aberglasney, Castell Carreg Cennen as well as being at the foot of the Bannau Brycheiniog

Article in Beyond the Border Programme 2021

Beyond the Border Rhaglen 2021

Cefnogir gan

^
Cymraeg