body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Rhaglen Mentora Lleisiau Newydd

Mae Rhaglen Mentora Lleisiau Newydd Beyond the Border yn rhaglen hyfforddiant bwrpasol a gynlluniwyd i gefnogi datblygu lleisiau newydd mewn chwedleua yng Nghymru

Chwedleuwyr ar Raglen Mentora Lleisiau Newydd 2020

Ceri Phillips

Mae Ceri John Phillips yn actor, awdur a digrifwr o Dreforys. Mae wedi gweithio’n helaeth yn y cyfryngau yng Nghymru ac ar draws Prydain, o gigio mewn clybiau comedi llwm i chwarae’r brif ran ac ysgrifennu ar gyfer ar sioeau ar gyfer y BBC,

ITV a S4C.

Mae Ceri’n gobeithio ymchwilio’r rhyngdoriad rhwng traddodiad barddonol Cymru a chwedleua modern a datblygu darn perfformiad yn seiliedig ar y canfyddiadau. Mae hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at ehangu ei repertoire chwedleua, datblygu cyfres

lawn o unedau gwaith ar gyfer chwedleua addysgol mewn ysgolion ac i ganfod ei le yn y gymuned chwedleua fyd-eang

 

Kestrel Morton

Mae Kestrel Morton yn chwedleuwr, bardd ac artist queer, rhywedd anneuol sy’n byw ar lan y môr ym Mro Morgannwg. Gwreiddir yr angerdd am straeon mewn atgofion plentyndod, gan eistedd gyda’r teulu o amgylch tannau gwersyll neu mewn pabell, yn gwrando ar y gwynt neu glaw, llunio straeon diddiwedd gyda’i gilydd a fyddai’n troelli drwy’r nosweithiau tawel a’u llenwi gyda dychymyg. Yn y blynyddoedd ers gwnaed yr atgofion hynny, bu ar daith hir a throellog, gan gwestiynu hunaniaeth, realaeth a’r dyfodol mewn byd sydd mewn argyfwng parhaus.

Ar y llwybr rhyfedd hwnnw ymchwiliwyd ymylon cudd cymdeithas, gan fyw bywyd symudol mewn sgwatiau, hen warysau, safleoedd teithwyr a choedwigoedd, ymysg y boblogaeth amrywiol hardd o gymeriadau a phersonoliaethau yn mynd heibio, bob un gyda chân i’w chanu neu stori i’w dweud. Yma y cafodd cariad plentyndod am straeon ei ailgynnau, gan ddweud straeon mewn coedwigoedd ac ogofau dwfn, yn y tir gwastraff ar ymylon gwyllt lle mae’r llinellau rhwng y real a’r mythig yn amwys a’r byd arall yn gorgyffwrdd gyda’r byd hwn.

Mae’r straeon a ddywedir yn cyfuno chwedlau traddodiadol gyda mythau newydd a gafodd eu plethu ar gyfer heriau’r byd a wynebwn heddiw, newid hinsawdd a chwalfa ecolegol, anghydraddoldeb iechyd, epidemig iechyd meddwl, ailwylltio a mynediad i dir.

Find out more about Kestrel’s Mentoring so far – Blog 1

Blog 2 - Rhagfyr 2020

Chandrika Joshi

Ganwyd Chandrika Joshi yn Uganda i rieni o India a daeth i Gymru fel ffoadur yn 1972. Bu yn yr ysgol yn y Rhondda ac astudiodd ddeintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Arbenigodd mewn Deintyddiaeth Gofal Arbennig a bu’n gweithio gyda chleifion anghenion arbennig dros fwy na deng mlynedd ar hugain.

Roedd tad Chandrika yn offeiriad Hindŵ a dilynodd yn ôl ei draed a dod yn offeiriad yn gwasanaethu’r gymuned Hindŵ yn lleol a thu hwnt. Mae offeiriaid yn adrodd straeon (Katha) o destunau hanfodol yn rhan fawr o gymuned crefyddol-gymdeithasol Hindŵ. Roedd ei thad yn adrodd Katha a’i mam yn diddanu’r cymdogion gyda straeon astrus a ddysgodd gan ei mam yn rhan fawr o’i phlentyndod. Mae chwedleua yn ei gwaed.

Roedd Kathakaar (chwedleuwyr) proffesiynol ar ddwy ochr teuluoedd ei thad a’i mam. Ymunodd â Chylch Chwedleua Caerdydd 8 mlynedd yn ôl a bu’n dweud straeon byth ers hynny.

Find out more about Chandrika’s Mentoring so far – Blog 1

Y mentoriaid

Y mentoriaid ar y Rhaglen Mentora Lleisiau Newydd yw Jan Blake, Cath Little a Daniel Morden.

Meet the Mentors & Mentees

Daniel Morden - Mentor
Ceri Phillips - Mentee
Cath Little - Mentor

Cefnogir gan

^
Cymraeg