body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Polisi Preifatrwydd

Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn weithredol rhyngoch chi, Defnyddiwr y Wefan yma a BEYOND THE BORDER STORYTELLING FESTIVAL CYF, perchennog a darparydd y Wefan hon. Mae BEYOND THE BORDER STORYTELLING FESTIVAL CYF yn cymryd preifatrwydd eich gwybodaeth yn ddifrifol iawn. Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn weithredol i'n defnydd o unrhyw a phob Data a gasglwyd gennym ni neu a roddwyd gennych chi yng nghyswllt eich defnydd o'r Wefan.

Gofynnir i chi ddarllen y polisi preifatrwydd hwn yn ofalus

Diffiniadau a dehongliad

1.Defnyddir y diffiniadau dilynol yn y polisi preifatrwydd hwn:

Data

Ar y cyd yr holl wybodaeth a roddwch i THE BORDER STORYTELLING FESTIVAL CYF drwy'r Wefan. Mae'r diffiniad hwn yn cynnwys, lle'n berthnasol, y diffiniadau a roddir yn y Cyfreithiau Diogelu Data.

Cwcis

Ffeil testun fach y mae'r Wefan hon yn ei roi ar eich cyfrifiadur pan ymwelwch â rhai rhannau o'r Wefan a/neu pan ydych yn defnyddio nodweddion neilltuol o'r Wefan. Caiff manylion y cwcis a ddefnyddir gan y Wefan hon eu nodi yn y cymal islaw (Cwcis).

Cyfreithiau Diogelu Data

Unrhyw gyfraith berthnasol yn ymwneud â phrosesu Data personol, yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i Gyfarwyddeb 96/46/EC (Cyfarwyddeb Diogelu Data) neu'r GDPR, ac unrhyw gyfreithiau, rheoliadau a deddfwriaeth eilaidd cenedlaethol sy'n weithredol, cyhyd ag mae'r GDPR mewn grym yn y Deyrnas Unedig

Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data (Undeb Ewropeaidd) 2016/679;

the General Data Protection Regulation (EU) 2016/679;

BEYOND THE BORDER STORYTELLING FESTIVAL CYF

BEYOND THE BORDER STORYTELLING FESTIVAL CYF., cwmni wedi ymgorffori yn Lloegr a Chymru gyda rhif cofrestru 7534036 y mae ei swyddfa gofrestredig yn Tŷ Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FH;

we or us

Cyfraith Cwcis y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd

Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb y Comisiwn Ewropeaidd) 2003 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb y Comisiwn Ewropeaidd) 2011;

Defnyddiwr neu Chi

Unrhyw drydydd parti sy'n defnyddio'r Wefan ac un ai heb gael ei gyflogi gan BEYOND THE BORDER STORYTELLING FESTIVAL CYF ac yn gweithredu fel rhan o'u cyflogaeth neu (ii) wedi ei gyflogi fel ymgynghorydd neu fel arall yn darparu gwasanaethau i BEYOND THE BORDER STORYTELLING FESTIVAL CYF ac yn defnyddio'r Wefan mewn cysylltiad gyda darpariaeth gwasanaethau o'r fath; a

Gwefan

Y wefan a ddefnyddiwch ar hyn o bryd, www.beyondtheborder.com, ac unrhyw is-barthau o'r safle hwn os na chafodd hynny ei wahardd yn benodol gan eu telerau ac amodau eu hunain.

2.Yn y polisi preifatrwydd hwn, os nad yw'r cyd-destun angen dehongliad gwahanol:

    1. mae'r unigol yn cynnwys y lluosog a'r ffordd arall o amgylch;
    2. mae cyfeiriadau at is-gymalau, cymalau, atodlenni neu atodiadau at is-gymalau, cymalau, atodlenni neu atodiadau y polisi preifatrwydd hwn;
    3. mae cyfeiriad at berson yn cynnwys busnesau, cwmnïau, cyrff llywodraeth, ymddiriedolaethau a phartneriaethau;
    4. deellir bod "yn cynnwys" yn golygu "yn cynnwys heb gyfyngiad".
    5. mae cyfeiriad at unrhyw ddarpariaeth statudol yn cynnwys addasiad neu ddiwygiad arno;
    6. the headings and sub-headings do not form part of this privacy policy.

Cwmpas y polisi preifatrwydd hwn

  1. 1. Mae'r polisi preifatrwydd hwn mewn grym yn unig ar gyfer gweithredoedd BEYOND THE BORDER STORYTELLING FESTIVAL CYF a Defnyddwyr yng nghyswllt y Wefan yma. Nid yw'n ymestyn i unrhyw wefannau y gellir cael mynediad iddynt o'r Wefan hon yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu, i unrhyw ddolenni y gallwn eu darparu i wefannau cyfryngau cymdeithasol.
  2. 2. Ar gyfer dibenion y Cyfreithiau Diogelu Data perthnasol, BEYOND THE BORDER STORYTELLING FESTIVAL CYF yw'r "rheolwr data". Mae hyn yn golygu mai BEYOND THE BORDER STORYTELLING FESTIVAL CYF sy'n penderfynu ar gyfer pa ddibenion ac ym mha ddull y caiff eich Data ei brosesu.

Data a gesglir

Gallwn gasglu'r Data dilynol, sy'n cynnwys Data personol gennych:

  1. enw;
  2. 2. gwybodaeth gyswllt tebyg i gyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn;
  3. 3. cyfeiriad IP (cesglir yn awtomatig);
  4. 4. math a fersiwn porwr gwe (cesglir yn awtomatig);
  5. 5. system gweithredu (cesglir yn awtomatig);

ym mhob achos, yn unol â'r polisi preifatrwydd hwn.

Sut y casglwn Ddata

Casglwn Ddata yn y ffyrdd dilynol:

  1. 1. data a roddir gennych chi i ni; a
  2. 2. data a gesglir yn awtomatig.

Data a roddir gennych chi i ni

Bydd BEYOND THE BORDER STORYTELLING FESTIVAL CYF yn casglu eich Data mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft:

  1. 1. pan gysylltwch â ni drwy'r Wefan, dros y ffôn, drwy'r post, e-bost neu unrhyw ddull arall;
  2. 2. pan ddewiswch dderbyn cyfathrebiadau marchnata gennym;

ym mhob achos, yn unol â'r polisi preifatrwydd hwn.

Data a gesglir yn awtomatig

I'r graddau eich bod yn cyrchu'r Wefan, byddwn yn casglu eich Data yn awtomatig, er enghraifft:

  1. 1. rydym yn awtomatig yn casglu peth gwybodaeth am eich ymweliad i'r Wefan. Mae'r wybodaeth hon yn ein helpu i wneud gwelliannau i gynnwys a mynd o amgylch y Wefan, ac yn cynnwys eich cyfeiriad IP, y dyddiad, amserau a pha mor aml yr ydych yn cyrchu'r Wefan a'r ffordd yr ydych yn defnyddio ac yn rhyngweithio gyda'i gynnwys.
  2. 2. byddwn yn casglu eich Data yn awtomatig drwy gwcis, yn unol â'r gosodiadau cwci ar eich porwr. I gael mwy o wybodaeth am gwcis a sut y defnyddiwn hwy ar y Wefan, edrychwch ar yr adran islaw dan bennawd "Cwcis".

Ein defnydd o Ddata

  1. 1. Gallwn fod angen unrhyw ran neu'r cyfan o'r Data uchod o bryd i'w gilydd er mwyn darparu'r gwasanaeth a phrofiad gorau posibl i chi pan fyddwch yn defnyddio ein Gwefan. Yn benodol, gallwn ddefnyddio Data am y rhesymau dilynol:

trosglwyddo drwy e-bost ddeunyddiau marchnata a all fod o ddiddordeb i chi.

ym mhob achos, yn unol â'r polisi preifatrwydd hwn.

  1. 1. Gallwn ddefnyddio eich Data ar gyfer y dibenion uchod os credwn fod angen gwneud hynny ar gyfer ein diddordebau dilys. Os nad ydych yn fodlon gyda hyn, mae gennych hawl i wrthwynebu mewn rhai amgylchiadau (gweler yr adran "Eich hawliau" islaw).
  2. 2. Ar gyfer dosbarthu marchnata uniongyrchol i chi drwy e-bost, byddwn angen eich caniatâd drwy optio mewn neu optio mewn meddal:
    1. 1. mae caniatâd optio-mewn meddal yn fath penodol o ganiatâd sy'n weithredol pan ydych wedi ymwneud â ni'n flaenorol (er enghraifft, yr ydych chi'n cysylltu â ni i ofyn am fwy o fanylion am gynnyrch/gwasanaeth neilltuol, a rydym yn marchnata cynnyrch/gwasanaethau tebyg). Dan ganiatâd "optio-mewn meddal", byddwn yn cymryd y cafodd eich caniatâd ei roi os nad ydych yn optio-allan.
    2. 2. ar gyfer mathau eraill o e-farchnata, mae'n ofynnol i ni gael eich caniatâd penodol'; hynny yw, mae angen i chi gymryd camau gweithredu positif a chadarnhaol wrth roi caniatâd drwy, er enghraifft, wirio blwch ticiau y byddwn yn ei roi.
    3. 3. os nad ydych yn fodlon am ein dull gweithredu ar gyfer marchnata, mae gennych yr hawl i ddiddymu eich caniatâd ar unrhyw amser. I ganfod sut i ddiddymu eich caniatâd, gweler yr adran "Eich hawliau" islaw.

Gyda pwy yr ydym yn rhannu data

Gallwn rannu eich Data gyda'r grwpiau dilynol o bobl am y rhesymau dilynol:

  1. 1. ein gweithwyr cyflogedig, asiantau a/neu gynghorwyr proffesiynol - i dderbyn cyfathrebiadau, yn cynnwys cylchlythyrau;

ym mhob achos, yn unol â'r polisi preifatrwydd hwn.

Cadw Data yn ddiogel

Byddwn yn defnyddio mesurau technegol a threfniadol i warchod eich Data, er enghraifft:

  1. 1. caiff mynediad i'ch cyfrif ei reoli gan gyfrinair ac enw defnyddiwr sy'n unigryw i chi;
  2. 2. byddwn yn storio eich Data ar serfwyr diogel;
  3. 3. mae mesurau technegol a threfniadol yn cynnwys mesurau i ddelio gydag unrhyw doriad data a amheuir. Os ydych yn amau unrhyw gamddefnydd neu golled neu fynediad heb awdurdod i'ch Data, gadewch i ni wybod ar unwaith os gwelwch yn dda drwy gysylltu â ni drwy'r cyfeiriad e-bost hwn: info@beyondtheborder.com.
  4. 4. os ydych eisiau gwybodaeth fanwl gan Get Safe Online ar sut i warchod eich gwybodaeth a'ch cyfrifiaduron a'ch dyfeisiau rhag twyll, lladrad hunaniaeth, firysau a llawer o broblemau ar-lein arall, ewch i www.getsafeonline.org. Cefnogir Get Safe Online gan Lywodraeth Ei Mawrhydi a busnesau blaenllaw

Cadw data

  1. 1. Os nad oes angen cyfnod cadw hirach neu os caniateir hynny gan y gyfraith, dim ond am y cyfnod angenrheidiol i gyflawni'r dibenion a amlinellir yn y polisi preifatrwydd hwn neu nes y gofynnwch am ddileu'r Data y byddwn yn cadw eich Data ar y systemau.
  2. 2. Hyd yn oed os ydym yn dileu eich Data, gall barhau i fod ar gyfryngau wrth gefn neu archif ar gyfer dibenion cyfreithiol, treth neu reoleiddiol

Eich hawliau

  1. 1. Mae gennych yr hawliau dilynol yng nghyswllt eich Data:
    1. 1. Hawl i fynediad – yr hawl i (i) ofyn am gopïau o'r wybodaeth a gadwn amdanoch chi ar unrhyw amser, neu (ii) ein bod yn addasu, diweddaru neu ddileu gwybodaeth o'r fath. Os ydym yn rhoi mynediad i chi i'r wybodaeth yma, ni fyddwn yn codi tâl i chi am hyn os nad oes eich cais yn "amlwg yn ddi-sail neu'n ormodol". Lle mae gennym ganiatâd cyfreithiol i wneud hynny, gallwn wrthod eich cais. Os gwrthodwn eich cais byddwn yn dweud wrthych pam. – the right to request (i) copies of the information we hold about you at any time, or (ii) that we modify, update or delete such information. If we provide you with access to the information we hold about you, we will not charge you for this, unless your request is “manifestly unfounded or excessive.” Where we are legally permitted to do so, we may refuse your request. If we refuse your request, we will tell you the reasons why.
    2. 2. Hawl i gywiro – yr hawl i gael eich Data wedi'i gywiro os yw'n anghywir neu anghyflawn. – the right to have your Data rectified if it is inaccurate or incomplete.
    3. 3. Hawl i ddileu - yr hawl i wneud cais i ni ddileu neu dynnu eich Data o'n systemau. – the right to request that we delete or remove your Data from our systems.
    4. 4. Hawl i gyfyngu ein defnydd o'ch Data - yr hawl i'n "blocio" rhag defnyddio eich Data neu gyfyngu'r ffordd y gallwn ei ddefnyddio. – the right to “block” us from using your Data or limit the way in which we can use it.
    5. 5. Hawl i gludo data - yr hawl i ofyn ein bod yn symud, copïo neu drosglwyddo eich Data. – the right to request that we move, copy or transfer your Data.
    6. 6. Hawl i wrthwynebu - hawl i wrthwynebu ein defnydd o'ch Data yn cynnwys lle defnyddiwn ef ar gyfer ein buddiannau dilys – the right to object to our use of your Data including where we use it for our legitimate interests.
  2. 2. I wneud ymholiadau, gweithredu unrhyw un o'ch hawliau a nodir uchod neu ddileu eich caniatâd i brosesu eich Data (lle mae caniatâd yw ein sail gyfreithiol dros brosesu eich Data), cysylltwch â ni drwy'r cyfeiriad e-bost yma: info@beyondtheborder.com.
  3. 3. Os nad ydych yn fodlon gyda'r ffordd yr ydym yn trin cwyn gennych yng nghyswllt y ffordd yr ydym yn trin eich Data, efallai y gallwch gyfeirio eich cwyn i'r awdurdod diogelu data perthnasol. Ar gyfer y Deyrnas Unedig Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yw hyn. Mae manylion cyswllt yr ICO ar gael ar eu gwefan yn https://ico.org.uk/.
  4. 4. Mae'n bwysig fod y Data a gadwn amdanoch yn gywir a chyfredol. Gofynnir i chi ein hysbysu os yw'ch Data yn newid yn ystod y cyfnod yr ydym yn ei gadw.

Dolenni i wefannau eraill

  1. 1. O bryd i'w gilydd gall y Wefan hon roi dolenni i wefannau eraill. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros wefannau o'r fath ac nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn. Nid yw'r polisi preifatrwydd yn ymestyn i'ch defnydd o wefannau o'r fath. Fe'ch cynghorir i ddarllen y polisi neu ddatganiad preifatrwydd gwefannau eraill cyn eu defnyddio.
  2. Mae Beyond the Border yn cysylltu gyda Chanolfan Celfyddydau Talisein/Ticketolve i werthu tocynnau ar ran Gŵyl Beyond the Border. Taliesin yw rheolwr data yr wybodaeth am docynnau ac nid oes gan Beyond the Border fynediad i wybodaeth bersonol os na chytunwyd hynny yn yr adran caniatâd archebu. Mae Canolfan Celfyddydau Taliesin yn defnyddio Ticketsolve, Global Payments, MailChimp a Phrifysgol Abertawe i brosesu archebion tocynnau. Maent wedi gweithredu mesurau technolegol priodol i atal rhag colled ddamweiniol, dinistr, difrod, newid neu ddatgeliad. I gael mwy o wybodaeth, gweler eu hysbysiadau preifatrwydd yma:
    Canolfan Celfyddydau Taliesin - https://www.taliesinartscentre.co.uk/en/policies-and-procedures
    MailChimp - https://mailchimp.com/legal/privacy/
    Ticketsolve - https://www.ticketsolve.com/privacy-policy/
    Global Payments - https://www.globalpaymentsinc.com/en-gb/acceptpayments/ecommerce/privacy
    Prifysgol Abertawe - http://www.swansea.ac.uk/the-university/worldclass/vicechancellorsoffice/compliance/dataprotection/dataprotectionpolicy/security ofpersonaldata/

Newidiadau perchnogaeth a rheolaeth busnes

  1. 1. O bryd i'w gilydd gall BEYOND THE BORDER STORYTELLING FESTIVAL CYF ehangu neu ostwng ein busnes a gall hyn gynnwys gwerthu a/neu drosglwyddo'r cyfan neu ran o BEYOND THE BORDER STORYTELLING FESTIVAL CYF. Lle mae'n berthnasol i unrhyw ran o'n busnes a drosglwyddir mewn modd o'r fath, caiff data a ddarperir gan Ddefnyddwyr ei drosglwyddo gyda'r rhan hwnnw a chaniateir i'r perchennog newydd neu barti rheoli newydd, dan delerau'r polisi preifatrwydd, i ddefnyddio'r Data ar gyfer y dibenion y cafodd ei gyflenwi i ni yn wreiddiol.
  2. 2. Gallwn hefyd ddatgelu Data i ddarpar brynwr ein busnes neu unrhyw ran ohono.
  3. 3. Yn yr achosion uchod, byddwn yn cymryd camau gyda'r nod o sicrhau y caiff eich preifatrwydd ei warchod.

Cwcis

  1. 1. Gall y Wefan yma roi a chyrchu Cwcis neilltuol ar eich cyfrifiadur. Mae BEYOND THE BORDER STORYTELLING FESTIVAL CYF yn defnyddio Cwcis i wella eich profiad o ddefnyddio'r Wefan. Mae BEYOND THE BORDER STORYTELLING FESTIVAL CYF wedi dewis y Cwcis hyn yn ofalus ac wedi cymryd camau i sicrhau eich caiff eich preifatrwydd ei warchod a'i barchu bob amser.
  2. 2. Caiff yr holl Gwcis a ddefnyddir ar y Wefan hon eu defnyddio yn unol â chyfraith gyfredol y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd ar Gwcis.
  3. 3. Cyn i'r Wefan roi Cwcis ar eich cyfrifiadur, byddwch yn gweld bar neges yn gofyn am eich caniatâd i osod y Cwcis hynny. Drwy roi eich caniatâd i roi'r Cwcis rydych yn galluogi BEYOND THE BORDER STORYTELLING FESTIVAL CYF i ddarparu gwell profiad a gwasanaeth i chi. Os dymunwch, gallwch wrthod caniatâd i ddodi'r Cwcis; fodd bynnag efallai na fydd rhai o nodweddion y Wefan yn gweithredu'n llawn neu fel y'u bwriadwyd.

Gall y Wefan hon roi'r Cwcis dilynol:

Math o Gwci a Diben

Cwcis dadansoddi/perfformiad

Maent yn ein galluogi i adnabod a chyfrif nifer yr ymwelwyr a gweld sut mae ymwelwyr yn symud o amgylch ein gwefan tra maent yn ei defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i wella'r ffordd y mae'n gwefan yn gweithio, er enghraifft drwy sicrhau fod defnyddwyr yn canfod yn rhwydd beth maent yn edrych amdano

Gallwch ddewis alluogi neu analluogi Cwcis yn eich porwr rhyngrwyd. Mae'r rhan fwyaf o borwyr rhyngrwyd yn derbyn Cwcis yn ddiofyn ond gellir newid hyn. I gael mwy o fanylion edrychwch ar ddewislen help yn eich porwr rhyngrwyd.

Gallwch ddewis dileu Cwcis ar unrhyw amser; fodd bynnag gallwch golli unrhyw wybodaeth sy'n eich galluogi i gyrchu'r Wefan yn fwy cyflym ac effeithiol yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, osodiadau personoleiddio.

Argymhellir eich bod yn sicrhau fod eich porwr rhyngrwyd yn gyfredol a'ch bod yn edrych ar yr help a'r arweiniad a roddir gan ddatblygwr eich porwr rhyngrwyd os ydych yn ansicr am addasu eich gosodiadau preifatrwydd.

I gael mwy o wybodaeth yn gyffredinol ar cwcis, yn cynnwys sut i'w hanablu, edrychwch ar aboutcookies.org. Byddwch hefyd yn canfod manylion sut i ddileu cwcis o'ch cyfrifiadur.

Cyffredinol

  1. 1. Ni chewch drosglwyddo unrhyw un o'ch hawliau dan y polisi preifatrwydd hwn i unrhyw berson arall. Gallwn drosglwyddo ein hawliau dan y polisi preifatrwydd hwn lle mae gennym reswm dros gredu na effeithir ar eich hawliau.
  2. 2. Os yw unrhyw lys neu awdurdod cymwys yn canfod fod unrhyw ddarpariaeth yn y polisi preifatrwydd hwn (neu ran o unrhyw ddarpariaeth) yn annilys, anghyfreithlon neu anorfodadwy, bernir y caiff y ddarpariaeth honno neu ran-darpariaeth, i'r graddau gofynnol, ei dileu ac ni effeithir ar ddilysrwydd a gorfodadwyedd darpariaethau eraill y polisi preifatrwydd hwn.
  3. 3. Os na chytunir fel arall, ni fernir fod unrhyw oedi, gweithred neu ddiffyg gweithred gan barti wrth ymarfer unrhyw hawl neu ddatrysiad yn ildiad o hynny nac unrhyw hawl neu ddatrysiad arall.
  4. 4. Caiff y Cytundeb hwn ei lywodraethu gan a'i ddehongli yn ôl cyfraith Lloegr a Chymru. Bydd pob anghydfod sy'n deillio dan y Cytundeb yn ddarostyngedig i awdurdodaeth lwyr llysoedd Lloegr a Chymru .

Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn

Mae BEYOND THE BORDER STORYTELLING FESTIVAL CYF yn cadw'r hawl i newid y polisi preifatrwydd hwn fel y barnwn yn angenrheidiol o bryd i'w gilydd neu fel y gall fod ei angen gan y gyfraith. Caiff unrhyw newidiadau eu dodi ar unwaith ar y Wefan a bernir eich bod wedi derbyn telerau'r polisi preifatrwydd pan ddefnyddiwch y Wefan y tro cyntaf yn dilyn y newidiadau. Gallwch gysylltu â BEYOND THE BORDER STORYTELLING FESTIVAL CYF drwy e-bost yninfo@beyondtheborder.com

Priodoliad

Cafodd y polisi preifatrwydd hwn ei greu yn defnyddio dogfen o Rocket Lawyer (https://www.rocketlawyer.co.uk).

Updated 11 November.

Cefnogir gan

^
Cymraeg