Mae diagnosis o gyflwr niwro-ddirywiol fel clefyd Alzheimer, Parkinsons, MS neu glefydau eraill yn newid bywyd. "Mae rhywbeth o'i le yn dy ymennydd!" yw'r neges a gall deimlo fel ymosodiad ar eich ymdeimlad o'ch hunan. Mae'n cymryd dipyn i ddod ag arfer ag ef. Rydym yn hynod falch fod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cefnogi ein prosiect peilot newydd, Slow Motion Selfies, y gobeithiwn fydd yn helpu.
Bydd grwpiau o bobl yn cydweithio, rhannu profiadau, cael hwyl a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n ymchwilio a herio eu syniadau ac yn ysgogi eu creadigrwydd a'u hunan-fynegiant. Gwyddom y bydd yr ysgrifennu, celfwaith, ffotograffau, cerddoriaeth, gwaith crefft neu berfformiadau yn ysbrydoli ac annog pobl eraill.
Cynhelir sesiynau yng Nghaerdydd yn ystod Gwanwyn 2020 ac maent ar agor i rai gyda diagnosis o gyflwr niwro-ddirywiol a/neu eu perthnasau. Mae'r sesiynau am ddim a gallwn roi help gyda threuliau teithio.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â tamarwilliams@beyondtheborder.com