body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Gweithio gyda ni

Swyddi Gwag Cyfredol

Volunteer Update

We have almost filled our volunteer roles for Beyond the Border Festival 2023.  We will be closing applications at the end of March.

We may have some limited opportunities for specific roles that we may open between now and the festival

Rydym yn chwilio am bobl gyfeillgar, frwdfrydig i dderbyn her gyffrous wrth i ni weithio gyda’n gilydd i gyflwyno ein gŵyl lawn gyntaf ar ein safle newydd yn Ninefwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llandeilo.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r tîm sy’n cludo ei gynulleidfaoedd i fyd hudolus o chwedleua yn Ninefwr, mae gennym swyddi ar gael sy’n gofyn am lefelau gwahanol o sgiliau a phrofiad. Y brif nodwedd yr ydym yn chwilio amdani yw cyffro i gael bod yn rhan o’r tîm sy’n cyflwyno Beyond the Border - Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru yn 2023.

Bydd gwirfoddolwyr yn cael pas penwythnos i’r ŵyl, lle i wersylla am ddim a thocynnau bwyd.

Fel arfer bydd gwirfoddolwyr yn cael 3 shifft o rhwng 3-5 awr mewn hyd dros y penwythnos.

Os oes maes penodol o gyflwyno’r ŵyl sydd o ddiddordeb i chi, marchnata neu swyddfa docynnau, technegol neu ddylunio, rheoli safle neu gyswllt ag artistiaid, mae gennym hefyd ddigon o swyddi gwirfoddol ar gael sy’n cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau gweithio mewn gŵyl. Rydym hefyd yn hapus iawn i siarad am gyfleoedd i weithio fel rhan o’n tîm craidd yn y cyfnod cyn yr ŵyl i
gael profiad a hyfforddiant sy’n benodol i weithio ar ŵyl chwedleua fwyaf Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Beyond the Border yw’r ŵyl chwedleua fwyaf yn y Deyrnas Unedig ac i ddathlu 30 mlynedd byddwn yn dod â chwedleuwyr ac artistiaid gorau Cymru, y Deyrnas Unedig a rhyngwladol i Sir Gaerfyrddin.

Ble a phryd?
Symudodd Beyond the Border o’i chartref yn Sain Dunwyd, Bro Morgannwg i Ddinefwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2021 ac yn 2023 fydd yr ŵyl lawn gyntaf.

Byddwn yn plethu ein gŵyl hudolus i ganol y dirwedd, adeiladau, castell a’r coetir, yn llawn o chwedlau, perfformiadau, a cherddoriaeth fyw i oedolion, pobl ifanc a’u teuluoedd. Rydym yn cynllunio i gael dros 3,000 o ymwelwyr ar y safle o 7 – 9 Gorffennaf 2023.

Sut gallwn ni gymryd rhan?
Rydym yn awyddus i weithio gyda busnesau, sefydliadau a grwpiau lleol ar nifer o weithgareddau yn y cyfnod cyn yr ŵyl, yn ystod yr ŵyl ac wedyn.

If you are interested in trading at the festival, or advertising and sponsorship opportunities and would like more information then contact sandrabendelow@beyondtheborder.com

Os hoffech chi wneud cais i werthu yn yr ŵyl llenwch y ffurflen hon.

FFURFLEN

Cefnogir gan

^
Cymraeg