body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

29 peth i edrych amdanynt yng Ngŵyl Beyond the Border

Mae’n Flwyddyn Naid a rydym wedi gofyn i’n tîm yn BTB i awgrymu 29 o bethau i edrych amdanynt yn Beyond the Border 2020 yn ein lleoliad newydd yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Dinefwr. Dewch i ddarganfod llwybrau a hanes yn ogystal â rhai o guddfannau y warchodfa natur parcdir unigryw yma, yn ogystal â rhai o uchafbwyntiau’r tîm ar gyfer y rhaglen yn 2020. ANADL DDOFN .... DYMA’N 29 UCHAF

  1. Wedi’i chuddio o fewn y goedwig gallwch ganfod Eglwys Llandyfeisant a ailadeiladwyd yn y 19egfed ganrif ond yn tarddu o’r oesoedd canol.
  2. Welais i rywbeth yn symud? Mae Dinefwr yn gartref rhai o’r mamaliaid mwyaf cyfrin ym Mhrydain; gall rhai pobl dreulio eu hoes heb eu gweld, fel dyfrgwn, ffwlbartiaid, llygod dŵr, ewigod llwyd a moch daear.
  3. Edrych ar yr adar ymfudol yn Llyn y Felin, yn cynnwys y Gwybedog Brith a’r Tingoch.
  4. Ymgolli yn y goedwig hud, coeden sy’n gofyn am roi dymuniadau ynddi, cylch o goed Ffawydd a gwrando am ddagrau’r Onnen gyda’r Dderwen ddoeth yn edrych drosom am dros 700 mlynedd
  5. Straeon i bob oed – rhaglen lawn i’r ymylon, o gynnwys ar gyfer oedolion yn unig, i rigymau a suo-gannau ar gyfer y rhai bach a phopeth cydrhwng!
  6. Dangosiadau ffilm!
  7. Cadw golwg am yr Hydd Penigamp sy’n mwynhau treulio amser uwchben y Tŷ Ceirw, un o’r 100 o Ewigod Llwyd sy’n crwydro drwy Ddinefwr.
  8. Cydio mewn clustffonau ar y safle ac ymuno â ni mewn Ceilidh Tawel neu draciau disgo!!
  9. Cadw golwg am y Gwartheg Parc Gwyn y mae eu technegau pori yn rhan o gadwraeth dolydd cyfoethog mewn blodau gan roi cynefin ar gyfer gwenyn a phryfed peillio eraill.
  10. Mae mil o lwybrau, rhai’n cael eu defnyddio fwy nag eraill, yn teithio drwy’r Parc a phob un yn cynnig rhyfeddodau: edrychwch am y Tŷ Colomennod, Llwybr Estyllod Coedwig y Gors, Bwthyn y Ciper, y Tŷ Pwmp, Caer Rufeinig.
  11. Catrin Finch a Seckou Keita – mae’r ddeuawd arobryn yma’n ysbrydoli cynulleidfaoedd ym mhob rhan o’r byd gyda’u cerddoriaeth fendigedig, gan gyfuno’r delyn glasurol a’r kora, telyn 22 tant o Orllewin Affrica.
  12. Cymraeg! Rydym wedi uno gyda Menter Iaith Bro Dinefwr i gynnig rhaglen o ganeuon, straeon a sesiynau ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr o bob lefel, yn cynnwys rhai sy’n ymweld â Chymru am y tro cyntaf.
  13. Nôl i’r Dyfodol! Mae ein thema Ailddychmygu ein Dyfodol yn cynnwys straeon gwyddonias, chwedlau hynafol, straeon arbrofol, cymysgedd o wyddoniaeth a chwedloniaeth, a llawer mwy!
  14. Clywed artistiaid o Ganada, yn cynnwys Ivan Coyote gorwych a ddisgrifiwyd gan Ottawa Press fel “to Canadian literature what KD Lang is to country music: a beautifully odd fixture.”
  15. Gwirioneddau mewn clogyn o straeon a straeon llawn gwirionedd – straeon a adroddwyd am gannoedd o filoedd a straeon a all ond digwydd ar y foment hon drwy eich dychymyg eich hun!
  16. Lleisiau newydd. Ffocws arbennig ar leisiau newydd ffres, yn cynnwys artistiaid yn ymweld â Beyond the Border am y tro cyntaf erioed, yn ogystal ag eraill yn camu lan i ddweud straeon hirach am y tro cyntaf.
  17. Straeon crwydrol yn y goedwig, gyda chwedleuwyr a cheidwaid yn rhannu straeon gwerin am y coed a’r planhigion yn ogystal â chwedlau epig o bob rhan o Gymru a’r Byd.
  18. Menywod heb Ff** o Bwys, dau dîm yn pentyrru’r straeon, chithau’n pleidleisio. Straeon menywod yn defnyddio ffraethineb, ymennydd, cyfrwystra, dewrder, ffyrnigrwydd a beth bynnag arall sydd ei eisiau!
  19. Aros yn ein gwersyllfa a gweld y sêr a’r llwybr llaethog. Cadwch lygad am ddigwyddiad arbennig a gyhoeddir.
  20. Cadw golwg am foch daear. Mae deyerydd moch coed Dinefwr yn y goedwig gollddail. Mewn cuddfan bren, ychydig yn uwch na’r deyerydd, gallwch edrych wrth iddynt ddod allan gyda’r nos. badger set are situated in the deciduous forest. Hidden in a wooden hide, just above the set, you can watch as they come out in the early evening.
  21. Mynd am dro o’r safle ac ymweld â thref hyfryd Llandeilo, cartref masnachwyr annibynnol gwych a hefyd gwmnïau adnabyddus yn cynnwys Toast, Wrights Emporium a Heavenly Cakes (rhaglen Extreme Cake Makers Channel 4).
  22. Clywed chwedlau lleol am Wartheg Parc Gwyn, Morwyn y Llyn a Meddygon Myddfai.
  23. Dod â’ch esgidiau glaw. Mae llwybr cerdded o amgylch y goedwig, a gynlluniwyd gan Lancelot ‘Capability’ Brown pan ymwelodd â Dinefwr yn 1775.
  24. Cynlluniwyd y tirlun gan yr Arglwyddes Cecil a’i gŵr, George Rice a briododd yn 1756 ac a aeth ati bron yn syth i drawsnewid Dinefwr. Diflannodd gerddi ffurfiol traddodiadol y 1600au: yn eu lle dirlun naturiolaidd gwych. Dylanwadodd Capability Brown ar Cecil a George, fel llawer arall, ond yn lle cael y dyn ei hun i gynllunio eu tirlun, fe’i gwnaethant ei hunain.
  25. Deuluoedd, mae gennym raglen ar gyfer yr ifanc iawn i’r heb fod mor ifanc. Mae gennym hyd yn oed ychydig o straeon amser gwely ar y gweill.
  26. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd Tŷ Newton yn ysbyty milwrol yn gofalu am filwyr wedi eu hanafu. Tra roedd dynion bant, roedd y ‘land girls’ yn gofalu am y cleifion ac yn gweithio’r tir.
  27. Mynd i Gastell Dinefwr a gweld olion un o gadarnleoedd Cymru. Yn y 12fed ganrif, yma y preswyliai Rhys ap Gruffydd, brenin y Deheubarth. Syrthiodd Dinefwr i ddwylo’r Saeson yn 1287 ac felly y bu am ganrifoedd, er gwaethaf ymdrech Owain Glyndŵr i’w adennill yn ystod gwrthryfel 1403.
    Beyond the Border
  28. Chwilio am y safle lle gallai dwy gaer Rufeinig fod wedi bod.
  29. Welsoch chi Carreg Cennen wrth i chi ddod mewn i Landeilo? Mae tua pedair milltir i ffwrdd yn y de. Ni fedrir ei weld o Dinefwr, ond mae Castell Dryslwynfwy neu lai yn y golwg ar fryn ar draws dyffryn Tywi i’r de-orllewin

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cefnogir gan

^
Cymraeg