body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Gŵyl Chwedleua Aberystwyth 2022

Fel rhan o’n rhaglen Hyb Chwedleua Mycellum, bydd Beyond the Border yn cymryd rhan yng Ngŵyl Chwedleua Aberystwyth rhwng 2-4 Medi.

Ynghyd â Gŵyl Chwedleua Aberystwyth a Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, bydd Beyond the Border a Hyb Chwedleua Mycelium yn cydweithio i sicrhau y gall yr ŵyl barhau yn ddigwyddiad blynyddol cyffrous, gan ddatblygu chwedleua ar gyfer artistiaid a chynulleidfaoedd, a chadw hynny yn unigryw i Aberystwyth.

Gweledigaeth Peter Stevenson, chwedleuwr, hanesydd straeon gwerin, darlunydd, artist yw Gŵyl Chwedleua Aberystwyth – gŵyl unigryw sy’n plethu ei yrfa a’i ddiddordebau eclectig gan gyflwyno gŵyl sy’n uno arddangosfa, perfformiad, llenyddiaeth a ffilm.

Bydd rhaglen Gŵyl Chwedleua Aberystwyth 2022 yn cynnwys Daniel Morden a Hugh Lupton, Cath Little a Chandrika Joshi, Michael Harvey a Pauline Down, Phil Okwedy, Fiona Collins, Frances Roberts Reilly, Ffion Philips, Deb Winter a Gillian Stevens, Carl Gough, y chwedleuwyr lleol Milly Jackdaw, Halo Quin ac Ailsa Mair Fox a’r cerddorion lleol Georgia Ruth a Iwan Huws. Cyflwynir y gweithdai chwedleua gweledol a llafar gan Ruth Koffer, Peter Stevenson, Valeriane Leblond a Maria Hayes.

Pris tocyn penwythnos ar gyfer yr ŵyl yw £50. Mae tocynnau unigol ar gael ar gyfer yr holl berfformiadau chwedleua a cherddoriaeth yn Theatr y Werin a’r rhaglen sinema lawn yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth.

Mae tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth yn:
aberystwythartscentre.co.uk

01970 623232

Mae amserlenni ar gael ar ein gwefan hefyd. Cliciwch ar y botwm i archwilio mwy.

SINEMA

4.45pm  The Green Knight

Mae The Green Knight (2021) yn ffilm ffantasi dan gyfarwyddyd David Lowery, sydd wedi’i haddasu o’r gerdd o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, ‘Sir Gawain and the Green Knight’, y mae chwedleuwyr mor hoff ohoni. Mae’r ffilm yn serennu Dev Patel fel Gawain, nai'r Brenin Arthur, sy’n cychwyn ar antur epig i wynebu’r Marchog Gwyrdd.

Tocynnau £7

THEATRE Y WERIN

5pm  Astromythology from Ancient Sumer: Queen of Earth and Heaven by Fiona Collins

Y blaned Gwener yw seren y bore a’r hwyr. Yn yr Sumer Hynafol, cysylltid y blaned â’r dduwies Inanna, Brenhines y Ddaear a’r Nefoedd. Dyma rai pytiau o hanesion Inanna.

Mae ysgolheigion yn parhau i gyfieithu a dehongli chwedlau Swmeraidd o dabledi clai sydd ar wasgar mewn amgueddfeydd ledled y byd. Pwy a ŵyr faint yn rhagor o fythau a chwedlau sydd ynghudd yn anialdiroedd Iraq?

Tocynnau £8

ROUND STWDIO

6pm  Spinning Tales

Dewch i weu chwedl yn y cylch stori a chrefft anffurfiol hwn: dewch â chwedl fer a’ch prosiect crefft eich hun i weithio arno wrth wrando (mae amser yn brin, ond fe’ch anogir i barhau yn y bar wedyn!)…

THEATR Y WERIN

7pm  Stars and their Consolations by Daniel Morden and Hugh Lupton

Mae Lupton a Morden yn adnabyddus am eu hailddehongliadau clir o waith Ofydd a Homer. Heno byddant yn rhannu chwedlau atgofus am y cytserau sy’n disgleirio uwch ein pennau yn awyr y nos, gan gynnwys Orïon, Pleiades a Phegasws.

Rhybudd cynnwys – delweddau o drais rhywiol. Addas i unrhyw un dros 16 oed

Tocynnau £10

THEATR Y WERIN

9pm  Spirit of Water, Heart of Stone by Deb Winter & Gillian Stevens

Cafodd myth y creu a newid hinsawdd eu cymysgu’n un yn y crochan, a thasgodd y ddwy stori yma o’r hylif berwedig. Wedi’u huno gan gariad dwfn tuag at fyd natur, mae’r chwedleuydd Deb Winter a’r cerddor Gill Stevens yn rhannu dwy stori bwerus gydag angerdd, taerineb a dealltwriaeth o’r cyflwr dynol. Mae dyfeisgarwch Deb gyda’i geiriau a chreadigrwydd Gill ar y viola da gamba gystal â’i gilydd, ac yn cynnig profiad sy’n eich tynnu i mewn, gan siarad â’r galon, herio ffiniau a chofleidio ‘yr arall’.

Tocynnau £8

ROUND STWDIO

10pm  The Hammons Family of West Virginia

Bydd Ben McManus, y ffidlwr a’r chwaraewr banjo Appalachaidd-Gymreig, a threfnydd digwyddiadau yn lleoliad newydd y Bank Vault yn Aber, yn adrodd hanes rhyfeddol y Teulu Hammons o Orllewin Virginia trwy gyfrwng cerddoriaeth a geiriau.

ROUND STWDIO

9am  Chwedleua Hybrid Rhyngwladol Byw
Chwedleua Kapiti, yn fyw o Seland Newydd

Mae Ynys Kapiti ar arfordir gorllewinol Ynys Ogleddol Aotearoa Seland Newydd, ynghyd ag aneddiadau Bae Pukerua, Paekakariki a Porirua ar y tir mawr. Yn ystod y cyfnod clo, dechreuodd y grŵp chwedleua lleol, In the Belly of the Whale, gyfarfod yn fisol ar lein dan drefniadau Judith Frost-Evans. Bydd yr ŵyl yn clustfeinio ar un o’u cynulliadau am 9am amser Cymru, sef 8pm yn Kapiti.

POD 6

10am  Prosiect Cymru India

Mae India Cymru yn brosiect trawsddiwylliannol gyda chefnogaeth y Cyngor Prydeinig a Chyngor Celfyddydau Cymru sy’n helpu plant yn Aberystwyth a Bangalore i ddeall sut y gallant fynegi eu teimladau ynghylch newid hinsawdd trwy ddysgu technegau animeiddio, chwedleua ar lafar, darlunio ar gyfer llyfrau, zines, nofelau graffeg, mytholeg a chwedleua gweledol. Caiff y sesiwn ei arwain gan yr animeiddwyr Charlie Carter ac Anwaar Alam, a’r darlunwyr Ekta Bharti a Peter Stevenson.

ROUND STWDIO

10am  Mapio Sain Creadigol gydag Ailsa Mair Fox

Beth allwn ni ei glywed yn agos o’n cwmpas? Sut allem ni adrodd ei hanes? Ymunwch ag Ailsa am gyflwyniad i fapio sain creadigol. Dyma ddull archwiliol o ddogfennu ac ail-seinio'r hyn a glywn o’n cwmpas er mwyn cofnodi eiliadau arbennig yn yr ŵyl a’r ardal o’i chwmpas: o’r mytholegol i’r dinod a’r cyffredin. Cychwynnodd Ailsa ddefnyddio’r ymarfer hwn fel rhan o ‘Mapio Sain ein 5 Milltir Sgwâr’, prosiect a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chronfa Ymsefydlogi’r Loteri Genedlaethol. Dewch i chwarae! (Darperir deunyddiau ond mae croeso i chi ddod â’ch nwyddau celf eich hun).

THEATRE Y WERIN

11am  Hear Us and Hasten gan Ffion Phillips ac Ailsa Dixon

Mae Hear Us And Hasten yn berfformiad chwedleua a ddyfeisiwyd ar y cyd, ac sydd â’i wreiddiau yn ddwfn ym Môr y Gogledd a thirweddau milltir sgwâr y ddau berfformiwr yng Ngogledd Cymru. Cafodd y perfformiad ei greu gan ddau o chwedleuwyr ifanc gorau Prydain, Ffion Phillips ac Ailsa Dixon, gyda chefnogaeth y Village Storytelling Festival a Tasgadh. Mae’n ymgais onest i fynd i’r afael â bregusrwydd yr hinsawdd a’r naratifau hen a newydd hynny sydd yn taflu cyrff menywod ifanc mor rhwydd i safnau bwystfilod. Ond yn bwysicach na hynny, dyma sioe sy’n ddathlu bod yn fyw, rŵan hyn. Fel y dywed Ffion ac Ailsa - mae hanesion, pobl a thirweddau yn creu triongl, ac os yw’r cysylltiad rhwng unrhyw ddau o’r rhain yn frau, rydym oll yn dioddef.

Tocynnau £8

ROUND STWDIO

Midday Book Launch and Workshop Siani Pob Man, Valériane Leblond, gyda Peter Stevenson a Morfudd Bevan

Wedi ei guddio ym mae prydferth Ceredigion rhwng Cei Newydd ac Aberaeron mae traeth bach hudolus Cei Bach. Yn nrws y bwthyn igam-ogam mae hen fenyw yn eistedd gyda phib yn ei cheg a chlocs ar ei thraed. Dyma'r enwog Siani Bob Man. Stori am gymeriad anarferol gyda darluniau gwreiddiol gwych yr artist talentog Valériane Leblond.

https://www.valeriane-leblond.eu/home.html

THEATRE Y WERIN

1pm  Parramisha gan Frances Roberts-Reilly

Mae gan Frances Roberts-Reilly o Kitchener, Ontario, Canada, dreftadaeth gymysg Gymreig Sipsiwn-Seisnig ac mae’n un o ddisgynyddion Abram Wood, aelod o deulu nodedig o gerddorion a chwedleuwyr Romani. Mae hefyd yn fardd cyhoeddedig, yn llenor, yn gofiannydd, yn ddramodydd ac yn chwedleuydd. Gyda’i thelyn, bydd Frances yn perfformio chwedlau sipsiwn ddaeth gyda’i theulu Romani i Gymru. Mae’r rhain yn straeon hudolus, yn gyfoethog o ddirgelion tirwedd Cymru, ac yn hanu o oes a lle gwahanol. Mae Frances yng Nghymru i gyflwyno ei chyfrol, Parramisha, casgliad o farddoniaeth Romani a gyhoeddwyd gan Cinnamon Press yn 2020. Ysgrifenna fod ‘yr hyn a ysgrifennir amdanom gan bobl nad ydynt yn Roma yn creu delwedd ystrydebol sy’n rhamantaidd ac yn ein pardduo yn yr un gwynt. Wrth ysgrifennu ein stori Parramisha ein hunain, mae gofyn i ni ddad-adeiladu’r naratifau hynny sy’n llywodraethu ac sydd mor amlwg mewn diwylliant poblogaidd, ac sydd wedi ein trin yn anghyfiawn. Mae Parramisha yn herio’r darllenydd i greu delwedd a naratif newydd gadarnhaol ynghylch ein cyfanrwydd fel hunaniaeth Romani.’

https://francesrobertsreilly.wordpress.com/

CAFE

2pm  Chwedleua i Ddysgwyr y Gymraeg gyda Fiona Collins

Chwedleua i’ch helpu chi i siarad Cymraeg

ROUND STWDIO

2pm  Ports Past and Present gyda Mary-Ann Constantine

Mae ardal Môr Iwerddon yn gwlwm unigryw o hanesion, economïau a hunaniaethau. Mae’r prosiect hwn yn ystyried y gwahanol borthladdoedd a’u cymunedau naill ochr y môr: Dulyn, Rosslare, Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro.

https://portspastpresent.eu/

SINEMA

2.30pm  Official WOW Selection Chwedl Dwr with Seneca Nation films, Native Spirit Foundation Cinema. In association with Planet.

Chwedl Dŵr, dewis swyddogol WOW, gyda Seneca Nation Films, Native Spirit Foundation Cinema. Mewn cydweithrediad â Planet.

Chwedl Dŵr / Fairytale of Water 46 mins

Mae straeon – chwedlau llifogi – yn cuddio dan ddyfroedd gorllewin Gymru; maent yn adrodd hanes adeg pan roedd posib croesi Bae Ceredigion i Iwerddon ar droed. Uwchlaw’r môr mae straeon tylwyth teg coll am freuddwydwyr a greodd diroedd iwtopaidd, hen fenywod oedd yn creu moddion cariad o ddŵr ffynnon, ac afonydd a ystyrid yn bobl. Trwy hen ddulliau chwedleua gweledol a sbardunodd ddechreuadau’r diwydiant ffilm, mae’r gwneuthurwr ffilmiau a’r artist sain Jacob Whittaker a’r chwedleuwr a’r darluniwr Peter Stevenson yn mynd ar daith drwy amser i wrando ar y lleisiau coll hyn yn y dŵr. Comisiwn arbennig ar gyfer WOW.


Terry J Jones a’r Native Spirit Film Festival.

Gathered Places, rhaglen ddogfen Indiaidd 19 Munud

Yn rhaglen ddogfen fer Terry J Tones, Gathered Places: An Indian Documentary Film, mae dau wneuthurwr ffilmiauIndiaidd yn ymweldâ’u mamwledydd ei gilydd yn yr UDA ac India. Mae tad Terry yn siarad am Argae Kinzua.

Soup for my Brother 10 munud

Mae Terry J Jones yn wneuthurwr ffilmiau o Genedl y Seneca, ac fe wnaeth ei ffilm fer ennill y wobr am y rhaglen ddogfen orau yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Lerpwl yn 2016.

Savage / Future 3 munud

Gan olygu i seinwedd o dapio a sŵn gwenith gwyn Iroquois yn ysgwyd, mae’r gwneuthurwr ffilmiau Seneca, Terry Jones, yn defnyddio lluniau llonydd personol a hanesyddol i gysylltu teulu a phrofiad Americanwyr Brodorol mewn ysgolion preswyl.

Tocynnau £7

THEATRE Y WERIN

3pm  Tonfanu Tales gan Chandrika Joshi

Hanner canrif yn ôl, bu i Chandrika Joshi ffoi o’i gwlad enedigol, Uganda, gyda’i theulu, gan ddod i fyw yng Nghymru. Arhosodd am y chwe mis cyntaf yng ngwersyll ailsefydlu Tonfannau ger Tywyn, ac ym 1973, fe’i cartrefwyd ym Mhenrhys yng Nghwm Rhondda. Mae’r sioe yn gweu drama real y ffoi o Uganda gyda chwedlau a mytholeg Hindŵaidd - straeon am golled, gwytnwch, cymhathu diwylliannau a dod o hyd i gartref

Tocynnau £8

ROUND STWDIO

4pm  Daniel Morden and Hugh Lupton

Sesiwn gwestiwn ac ateb gyda Daniel Morden a Hugh Lupton am brosiect The Stars and their Consolations

ROUND STWDIO

5pm  Mochyn Myrddin gan Milly Jackdaw

Mae’r hanes yn cychwyn wrth i Myrddin geisio noddfa mewn coeden afalau fel moddion yn erbyn gweledigaethau hunllefus o’r dyfodol y mae’n eu dioddef yn sgil brwydr. Yno, mae’n dod yn gyfaill i flaidd a mochyn. 2000 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae mam sengl yn cychwyn ar gyrch i ddod o hyd i fyth byw Myrddin a grym sylfaenol y tir. Dyma alwad I ailwerthuso’r straeon a adroddwn wrthym ni ein hunain ac i ddarganfod codau mewn chwedlau hynafol, sydd wedi’u cuddio tan yr amser iawn iddynt gael eu datgelu.

ARTS CENTRE OUTDOORS

5pm  Cyfarfod Chwedl

Chwedl yw'r rhywdwaith yng Nghymru o chwedlwragedd a menywod sydd yn caru chwedlau.

Ymunwch a Chwedlwragedd yn yr ardd (y caffi os yn wlyb) ar Ddydd Sadwrn am 5gh, i wrando ar chwedl, ac efallai i adrodd un, i sgwrsio am beth mae Chwedl yn ei wneud - a gallu'i wneud - ac i rhyngweithio gyda menywod eraill yng Nghymru a'r byd mawr. Croeso i chi siarad Cymraeg gyda ni. Bydd croeso mawr i bob menyw a phawb sydd yn hunaniaethu yn fenywod.

THEATRE Y WERIN

6pm  Adverse Camber yn cyflwyno Phil Okwedy - The Gods All All Here

“Peidied i’th gysgod byth ostwng.”

Wedi’i sbarduno gan ddarganfyddiad cyfres o lythyrau oddi wrth ei dad yn Nigeria i’w fam yng Nghyymru, mae The Gods Are All Here yn berfformiad un-dyn cryf, telynegol a chynnes gan y chwedleuwr blaenllaw Phil Okwedy.

Mae’r perfformiad hudolus yn gywrain yn plethu chwedlau, cân a straeon gwerin y diaspora Affricanaidd gyda stori bersonol ryfeddol sy’n dadlennu profiadau Phil o gael ei fagu fel plentyn treftadaeth ddeuol yng Nghymru’r 1960au a’r 1970au’.

Gan olrhain y cyfnod pan y dywedir fod plant yn ystyried eu rhieni fel duwiau, ond heb iddo ef ei hun erioed fyw gyda nhw mewn gwirionedd, mae Phil yn ystyried os oedd ei rieni, mewn gwirionedd, y duwiau y gwnaeth eu dychmygu i fod...

Drwy ymchwilio cydraddoldeb, rhyddid, hiliaeth, teulu a chael eich magu heb eich rhieni gwaed, mewn perfformiad teimladwy, doniol a hiraethus, mae The Gods Are All Here ar yr un pryd yn stori heb amser ac eto’n bendant iawn yn stori am heddiw.

“Dweud stori gwych, gan gyfuno straeon personol, traddodiadol ac a ail-ddychmygwyd mewn ffordd unigryw. Teimladwy a diddorol iawn, rydych bob amser eisiau gwybod ‘beth ddigwyddodd nesaf.” Aelod o’r gynulleidfa

“Cafodd y sioe wefreiddiol hon ei saernïo’n anhygoel"
Rufus Mufasa

Lluniwyd a pherfformiwyd gan Phil Okwedy

Cyfarwyddir gan Michael Harvey

Noddir gan Cyngor Celfyddydau Cymru gyda nawdd Llywodraeth Cymru a nawdd y Loteri..

Cefnogir gan Theatrau Sir Gâr

Addas i rai sy’n 12 oed a hŷn
Tocynnau £10

Mae’r cynhyrchiad yma’n trafod magwraeth gyda rhieni maeth, mae’n adrodd straeon am gaethwasiaeth sy’n cynnwys disgrifiadau o drais, ac mae’r sioe yn cynnwys iaith sy’n gwahaniaethu

ROUND STWDIO

8pm  The Gods are all Here talk

Sgwrs am Gods are All Here gyda Phil Okwedy a Shara Atashi

AM DDIM gyda tocyn The Gods are All Here

THEATRE Y WERIN

9pm  Georgia Ruth and Iwan Huws

Cerddor o Aberystwyth yw Georgia Ruth. Gan ddefnyddio dylanwadau gwerin i greu sain sy’n gwbl unigryw, fe enillodd ei halbwm gyntaf Week of Pines y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2013, ac fe’i henwebwyd ar gyfer dwy wobr yn y BBC Radio 2 Folk Awards.

Bu Georgia yn cydweithio efo’r Manic Street Preachers ar Futurology yn 2014 cyn rhyddhau ei hail albwm Fossil Scale yn 2016.

Mae ei thrydydd albwm – Mai – allan trwy Recordiau Bubblewrap

“Her own debut is a wonder, full of longing and melody” MOJO
“One of the British folk discoveries of the year”
The Guardian
“Georgia is finding her own distinct voice”
Q Magazine

Tocynnau £10

SINEMA

9.30pm  Vincent Price: Mewn cydweithrediad ag Abertoir. Collaboration with Abertoir.

Vincent Price oedd un o leisiau chwedleua mawr hanes y sinema. Yn ystod cyfnodau clo diddiwedd 2020, fe wnaeth Gaz Bailey, cyfarwyddwr Abertoir, a Peter Stevenson, cyfarwyddwr Gŵyl Chwedleua Aberystwyth, benderfynu creu fersiwn o un o ddramâu radio mwyaf cofiadwy Vincent, Three Skeleton Key, wedi’i lunio â llaw. Dyma stori am wallgofrwydd ac angau, wedi’i lleoli mewn goleudy anghysbell dan warchae gan lygod mawr; stori lle mae chwedleua yn cwrdd ag arswyd gwerin..

THEATRE Y WERIN

10pm  The Company of Wolves

Cafodd The Company of Wolves, sy’n seiliedig ar stori fer Angela Carter o 1979, ‘The Bloody Chamber’, ei rhyddhau ym 1984 gan y cyfarwyddwr Neil Jordan, gan ddwyn ynghyd elfennau o straeon tylwyth teg clasurol yr Hugan Fach Goch a Mr Llwynog. Mae’n serennu Angela Lansbury fel y fam gu, sy’n ein rhybuddio mai’r bleiddiaid gwaethaf yw’r rhai hynny sy’n flewog ar y tu mewn.

ROUND STWDIO

10pm  Fables after Dark: Straeon Serch a Chariad gan chwedleuwyr lleol

Fables After Dark: Tales of Love and Lust by local tellers.

Mae ‘Fables after Dark’ yn dwyn chwedleuwyr ynghyd o’n cylch stori misol yn Aberystwyth, i berfformio chwedlau a chaneuon o … natur aeddfed … Dewch i gyfarfod breninesau lysti, dynion tinboeth, a chedorau hudol!

Mae Dr Halo Quin yn swyngyfareddics, yn fardd, yn awdur paganaidd, yn ymrafaelydd coblynnod, ac yn cynnal cylch stori Fables. Mae’n obsesiynol am dylwyth teg ac yn angerddol dros chwedl, hud a lledrith.

STORYWALK

10am Chwedl Aberystwyth gyda Peter Stevenson & Ailsa Mair Fox

Peter Stevenson, storïwr gweledol, ac Ailsa Mair Fox sielydd chwedlau, wrth iddyn nhw gymryd chi ar daith gerdded storïol rithwir yn Aberystwyth - lle sy’n llawn atgofion a breuddwydion, gyda'r Ferch Alarch, y Tair Chwaer, Plant Rhys Ddwfn, Cewri, Morwynion Meddw a Buffalo Bill.

Storywalks will start from town. Those booked on the walk will be informed of the meeting place.

STORYWALK

10am Coed Penglais gyda Milly Jackdaw a’i ffrindiau

Taith gerdded trwy warchodfa natur goediog Aberystwyth yng nghwmni Milly Jackdaw, fydd yn adrodd y straeon sydd gan y coed i’w rhannu. Milly Jackdaw.

ROUND STWDIO

12pm Selkie Faction gyda Maria Hayes

Bydd Maria Hayes yn perfformio darlun hir sy’n archwilio’r ffeithiau wrth wraidd mytholeg y Selkie. Pwy oedd y Selkies? O ble ddaethon nhw? Beth yw’r hanes go-iawn?

Dewch i wylio’r darlun yn datblygu wrth i’r haenau rhwng myth a hanes weu drwy’r ddelwedd.

THEATRE Y WERIN

1pm Okha Haran gan Cath Little a Chandrika Joshi

Chandrika Joshi a Cath Little yn adrodd a chanu hanes Okha Haran yn Saesneg, Gwjarati, Cymraeg a Sansgrit. Okha Haran yw hanes Okha, merch y Dduwies Parvati, sydd wedi’i melltithio i fyw ar y ddaear yn nheulu’r ellyll-frenin Banasur. Mae’r trysor hwn o’r Puranas Hindŵaidd wedi ei drosglwyddo ar hyd y cenedlaethau yn nheulu Chandrika.

Ar y cyd, mae Chandrika a Cath wedi ail-ddychmygu’r stori, ac yn edrych ymlaen at ei rhannu â chi.

Tocynnau £8

SINEMA

2pm Mystic Chords of Memory + Q&A with director Lauren Everett

Yn ystod haf 2019 bu Lauren Everett, yr artist a’r gwneuthurwr ffilmiau o Portland, Oregon, yn teithio Cymru er mwyn creu ffilm hir i archwilio’r modd y mae pobl yn profi ac yn cynnal cysylltiadau â’r gorffennol a’r diwylliant y maent yn ei rannu. Adroddir y ffilm trwy naratifau ynghylch lle, a cheir cyfraniadau gan artistiaid, ffermwyr, amgylcheddwyr, cerddorion, ysgrifenwyr a chwedleuwyr, gan gynnwys Fiona Collins, Gwilym Morus, Owen Shiers, Eric Maddern, Peter Stevenson a llawer mwy.

Tocynnau £7

ROUND STWDIO

2pm Something or Nothing – Finding your Nexus

Dywed Carl iddo fabwysiadu’r teitl ‘chwedleuwr’ yn ffurfiol yn 2012, er iddo gael ei gyflwyno i fyd chwedleua yn ôl yn 2005. Mae wedi perfformio ledled y DU, wedi recordio straeon ar gyfer BBC Wales a bu ar daith yn Tsieina yn 2019. Tra’i fod yn angerddol dros chwedleua, mae ganddo ystod ryfeddol o sgiliau yn dilyn ei yrfa amrywiol; gyrfa y credai ei bod yn bennaf yn y gorffennol nes i Covid gyrraedd. Profodd ddigwyddiadau mawr yn ei fywyd gyda Covid yn gefnlen, gan sbarduno deffroad dwys sydd wedi trawsffurfio ei feddylfryd ynghylch ei waith fel chwedleuwr. Fel hwylusydd gweithdai profiadol, ymgynghorydd mentrau cymdeithasol ac elusennau, biolegydd ac addysgwr amgylcheddol, mae Carl nawr yn eich gwahodd i ymuno ag o mewn gweithdy wrth iddo ein hannog i rannu ein straeon, er mwyn archwilio ac o bosib, trawsffurfio’r hyn a welwn fel ein rôl ni mewn cyfnod o helyntion ecolegol ac argyfwng hinsawdd.

ROUND STWDIO

3pm Perfformiad Darlunio Byw gyda Ruth Koffer

Cymrwch gip ar y naratif gweledol ffres sy’n dod i’r fei yng ngwaith Ruth wrth iddi ddarlunio chwedleuwr yn perfformio gyda pheiriannau ‘crankies’. Gwahoddir y gynulleidfa i wylio, neu i ddod â llyfr braslunio a darlunio gyda hi.

THEATRE Y WERIN

4pm Taliesin gan Michael Harvey a Pauline Down

Y chwedleuwr Michael Harvey a’r gantores-gerddor Pauline Down yn adrodd ‘Taliesin’ – hanes bardd mwyaf y byd Celtaidd. Mae’r sioe hon yn aros y driw i wreiddiau a soniaredd yr hanes, ac yn ychwanegu canu a seiniau taro wedi’u lŵpio’n fyw ar y llwyfan, er mwyn dod â thrawsnewidiad a hudoliaeth yr hanes yn danbaid o fyw.

Addas i oedolion a phlant dros 7 oed

https://michaelharvey.org

Tocynnau £10

beyond-the-border-logo
Storytelling hub logo

Cefnogir gan

^
Cymraeg