Os nad yw gwersylla yn Beyond the Border yn apelio atoch chi, yna mae amryw o westai, tafarndai, gwely a brecwast, gwersylloedd a lleoedd ar rent yn lleol fydd yn rhoi croeso Cymreig i chi.
Dyma rai gwefannau y byddem yn argymell y dylech gael golwg arnyn nhw:
Hefyd mae mannau annibynnol lleol yn agos at Ddinefwr ar AirBnB, Hotels.com a Booking.com
Rydym lai na milltir o dref drawiadol Llandeilo, perl Sir Gaerfyrddin. Llandeilo, the gem of Carmarthenshire.
Enwebwyd Llandeilo gan y Sunday Times fel un o’r mannau gorau i fyw yng Nghymru.
Yn sefyll ar ben bryn uwch ben Afon Tywi, mae’r dref yn cynnig cymysgedd wych o gynnyrch lleol a steil. Mae’n lle hyfryd i grwydro’r strydoedd culion, siopau bychain, bwytai a chaffis.
Rydym yng ngwlad y Cestyll! Mae gan Gymru fwy o gestyll i bob milltir sgwâr nag unrhyw wlad arall yn y byd ac mae cyfran sylweddol ohonynt yn y gornel hon o Sir Gaerfyrddin.
Er bod Castell Dinefwr yn edrych dros gae’r ŵyl, ddim ond 5 milltir i’r de-ddwyrain o Landeilo, fe ddewch chi ar draws adfeilion trawiadol Carreg Cennen Castle.
Mae Dinefwr hefyd yn agos iawn at rai o erddi gorau Cymru. Agorwyd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar safle 560 erw yn 2000, ac mae yno amrywiaeth o erddi ar themâu gwahanol a’r tŷ gwydr un bwa mwyaf yn y byd ymhlith yr atyniadau yno.
I lawr y ffordd, ger Gelli Aur mae Gerddi Aberglasney.Mae ei erddi muriog ffurfiol yn dyddio o gyfnod Elizabeth gyda gardd gloestr unigryw yn ganolog i’r safle.
Hoffech chi gael awgrymiadau personol gan bobl leol am fanna i fynd i’w gweld? Mae gan Darganfod Sir Gâr awgrymiadau gwych i rai sydd am grwydro neu am gamu o’r ŵyl am ychydig oriau neu i wneud y mwyaf o’u harhosiad yma yn Carmarthenshire.
Fe wnaethom hefyd ofyn i’r chwedleuwr lleol, Ceri Phillips rannu rhai awgrymiadau am Landeilo a’r ardal.
Article on Llandeilo from Beyond the Border Programme 2021