Bydd gwersylla ar safle Dinefwr yn brofiad hudol wrth i ni eich trwytho yn y bywyd gwyllt.
Rydym yn gwneud popeth posib i baratoi a chynllunio ar gyfer gwersylla yn yr ŵyl yn mis Gorffennaf.
Er ein bod yn gweld cyfyngiadau yn gostwng yma yng Nghymru, mae iechyd a llesiant ein cynulleidfaoedd, artistiaid a staff yn dal yn brif flaenoriaeth. Rydym eisiau mwynhau dod at ein gilydd a rhannu straeon mewn ffordd sy’n ddiogel ac o fewn cyfyngiadau COVID yma yng Nghymru.
Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid, staff, Digwyddiadau Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Gaerfyrddin a llawer o bobl eraill sydd i gyd wrthi’n galed yn ceisio dod â’r digwyddiad hwn ynghyd. Rydym yn cael arweiniad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn gwrando ar Iechyd Cyhoeddus Cymru ar yr hyn y gallwn ei wneud ar safle’r ŵyl.
Dinefwr is the first parkland to be a designated National Nature Reserve (NNR) in Wales and a Site of Special Scientific Interest (SSSI). It’s a microcosm of Welsh heritage and natural history. Campers will be able to sleep under the stars this summer, and as well as taking in some extraordinary storytelling, be amazed at the local wildlife you will encounter including bats, badgers and views from the spectacular deer park.
Er ein bod yn ffodus o gael y golygfeydd a bywyd gwyllt rhyfeddol hyn, bydd Beyond the Border hefyd yn darparu’r cyfleusterau gwersylla hanfodol ar y safle (toiledau, cawodydd, cyfleusterau golchi llestri, mannau gwaredu gwastraff, man gwaredu toiledau cemegol).
Bydd mynediad uniongyrchol o’r gwersyll i’r Ŵyl a fydd bellter cerdded byr o’r gwersyll, a bydd gwasanaeth diogelwch dros nos a bydd tîm y gwersyll wrth law i’ch cefnogi yn ystod eich arhosiad.
I’r rhai sydd angen gwefru sgwteri/cadeiriau olwyn bydd cyfleusterau gwefru ar y safle.
Gofynnir i chi ddilyn ein Rheolau Gwersylla os dewiswch wersylla ar y safle