body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Llwybrau Chwedleua Gwrth-hiliaeth yn cyhoeddi’r tîm

Bydd Bevin Magama, Duke Al Durham, Phil Okwedy, Ayisha De Lanerolle a Jafar Iqbal yn rhan o dîm newydd Llwybrau Chwedleua Gwrth-hiliaeth – rhaglen newydd ddwy flynedd, fydd yn sicrhau bod storïau a lleisiau sydd heb eu clywed o bob rhan o Gymru’n cael eu cynrychioli ac ymwreiddio ymarfer chwedleua gwrth-hiliaeth ar draws Cymru.

Bydd Bevin Magama, Duke Al Durham, Phil Okwedy, Ayisha De Lanerolle a Jafar Iqbal yn rhan o dîm newydd Llwybrau Chwedleua Gwrth-hiliaeth – rhaglen newydd ddwy flynedd, fydd yn sicrhau bod storïau a lleisiau sydd heb eu clywed o bob rhan o Gymru’n cael eu cynrychioli ac ymwreiddio ymarfer chwedleua gwrth-hiliaeth ar draws Cymru. Mae’r prosiect a gyflwynir Cyflwynir y prosiect rhwng Beyond the Border - Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru a People Speak Up, dau sefydliad
sydd â hanes cadarn o gryfhau ac arddangos storïau amrywiol cymunedau yn
Ne Orllewin Cymru a ledled y wlad, trwy’r Hwb Chwedleua Myseliwm. Llwyddodd y partneriaid i ddatblygu'r prosiect hwn o gyllid o Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Gwrth-hiliaeth.

Bydd y Cyfarwyddion Cyfoes a’r Cynhyrchydd yn creu gweithgareddau gyda chymunedau ac yn datblygu rhaglenni diwylliannol wedi eu creu ar y cyd, sy’n dathlu’r storïau cyfoethog ac amrywiol o’n treftadaeth gyffredin. Bydd y rhaglen yn cael ei chefnogi gan bartneriaid sefydliadol gan annog hyfforddiant gwrth-hiliaeth ar ffurf celfyddyd a chynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth sefydliadol, gan weithio’n weithredol a chadarn i weithredu yn erbyn hiliaeth.
“Mae hwn yn amser cyffrous i fod yn datgelu a chysylltu storïau newydd mewn Cymru sydd yn ymroddedig i weledigaeth eang o’n dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at helpu’r tîm gwych o weithwyr creadigol i wireddu eu syniadau a chefnogi’r sefydliadau sy’n cydweithio ar eu taith wrth-hiliaeth.” Rheolwr Prosiect Llwybrau Chwedleua Gwrth-hiliaeth, Ayisha De Lanerolle

Penodwyd Bevin Magama a Duke Al Durham yn Gyfarwyddion Cyfoes a fydd yn dadlennu storïau a lleisiau yng Nghasnewydd a Rhondda Cynon Taf. Byddant yn ymuno â Phil Okwedy sy’n parhau yn ei swydd Cyfarwydd Cyfoes, y mae wedi bod yn ei llunio dros y flwyddyn ddiwethaf gyda People Speak Up ar draws de orllewin Cymru.

Chwedleuwr proffesiynol ac awdur a aned yn Zimbabwe yw Bevin Magama sy’n byw yng Nghasnewydd ac mae wedi gweithio ar Raglen Greadigol Arweiniol Cyngor Celfyddydau Cymru fel Ymarferwr Creadigol ac Asiant Creadigol. Mae Bevin wedi cydweithio hefyd gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru, fel cyfarwyddwr artistig a chwedleuwr, i gynhyrchu perfformiadau a mynegiant artistig i ffoaduriaid.

Dywedodd Bevin: “Mae bod yn Gyfarwydd Cyfoes yn gwireddu breuddwyd, cyfle i fod y cyfrwng sy’n defnyddio chwedleua i ysbrydoli cymunedau i fyw mewn harmoni gyda’i gilydd beth bynnag fo eu lliw neu hil. Fy ngweledigaeth i yw gweld Cymru’n carlamu tuag at y llinell derfyn a chodi’r tlws fel y genedl yn y Deyrnas Unedig sy’n esiampl i bawb o ran gwrth-hiliaeth.”

Mae Duke Al Durham yn fardd cyhoeddedig, artist gair ar lafar, rapiwr, a hwylusydd sy’n byw yng Nghaerdydd. Fo yw awdur ‘Bittersweet: The Highs, The Lows, Hypers and Hypos of Living with Type 1 Diabetes’. Cyhoeddodd waith hefyd gyda BBC Wales ar gyfer Cwpan y Byd yn 2022, ‘Sport in Words’ BT Sports ar gyfer Mis Hanes Pobl Ddu am Syr Lewis Hamilton, Anthology 8 Met Caerdydd, cylchgrawn Artes Mundi, ar Amazon a Scrum V y BBC ar gyfer y Chwe Gwlad yn 2022.

Dywedodd Duke Al Durham, “Rwyf mor ddiolchgar o fod yn rhan o brosiect mor ystyrlon. Mae swyddogaeth y chwedleuwr yn rhoi cyfle i mi archwilio a rhannu storïau grymus pobl eraill. Rwyf am weithio gyda’r Gwasanaeth Cyswllt Alcohol yn Rhondda Cynon Taf a siarad â defnyddwyr y gwasanaeth. Rwyf am roi llais i ddefnyddwyr y gwasanaeth a chyfle i rannu eu storïau. Wedyn rwyf yn gobeithio ysgrifennu drama gair ar lafar sy’n tacluso’rsgyrsiau craidd y byddwn yn eu cael. Fy nod yw chwalu stigma alcoholiaeth ac iechyd meddwl. Mae gan bawb stori i’w dweud, mae gan bawb rywbeth i’w ddweud, mae pobl wedi bod yn rhannu storïau ers canrifoedd, maent yn ddull o fynegiant, deall ein gilydd ac maent yn ein dwyn yn nes at ein gilydd.”

Roedd Phil Okwedy a’r chwedleuwr o Sir Benfro yn un o’r artistiaid ‘Cyfeiriadau Newydd’ yng Ngŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru, Beyond the Border yn 2021. Roedd yn chwedleuwr wedi ei gomisiynu ym mhrosiect Go Tell the Bees Theatr Genedlaethol Cymru ac mae ar hyn o bryd yn ysgrifennu llyfr ar sail ei Daith chwedleua ddiweddar yng Nghymru, The Gods Are All Here a gynhyrchwyd gan Adverse Camber

ac oedd yn rhan o raglen Cynrychioli Cymru, Datblygu Awduron o Liw Llenyddiaeth Cymru. Mae llyfr cyntaf Phil, Wil & the Welsh Black Cattle yn gasgliad gwych o lên gwerin Cymru wedi eu plethu at ei gilydd a’u fframio o gwmpas chwedlau hen borthmyn y gorffennol. Mae Phil hefyd yn darparu’r gwasanaeth ‘storïau ar bresgripsiwn’ iechyd a chelfyddydau i People Speak Up.

Dywedodd Phil, “Gan adeiladu ar y gwaith a ddechreuwyd fel cymuned gyda People Speak Up, rwyf wedi cyffroi o weld sut y bydd y rôl hon yn datblygu wrth ymateb i weithio gyda chymunedau amrywiol. Rwyf wrth fy modd o gael y cyfle i gefnogi, datblygu a grymuso lleisiau sy’n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd a heb eu clywed yn aml. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen yn eiddgar am gael gweithio’n rhan o dîm mor ysbrydoledig.”

Yn gweithio gyda’r Cyfarwyddion Cyfoes bydd y cynhyrchydd, Jafar Iqbal sydd wedi gweithio yn y sector celfyddydau ers dros ddau ddegawd. Yn ddiweddar roedd yn Gynhyrchydd Cyfranogiad ar GALWAD, y digwyddiad traws-gyfryngol epig a wnaed gyda National Theatre Wales a Sky Arts. Mae hefyd yn sylfaenydd Scene/Change, y cynllun ysgrifennu dramâu cyntaf erioed ar gyfer artistiaid o Gymru sydd â threftadaeth De Asia. Fel gohebydd celfyddydol, mae Jafar wedi sôn yn angerddol am broblemau systematig yn y sector; ac fe sylfaenodd a chyflwyno’r podlediad Critically Speaking, lle’r oedd yn siarad gyda chwech o’r arweinwyr celfyddydol mwyaf yng Nghymru am hiliaeth systematig a braint pobl wyn yn eu sefydliadau.

“Mae cael y cyfle i gynhyrchu gwaith gyda chwedleuwr cyffrous o’r Mwyafrif Byd-eang yn fraint anferth, ac alla'i ddim aros am gael cychwyn arni. Rwy’n deall pwysigrwydd y swyddogaeth, ac mae’n parhau fy ymrwymiad i weithio gyda chymunedau sydd wedi eu hallgau yn hanesyddol a rhoi llwyfan i’w storïau gael eu dweud. Rwy’n edrych ymlaen at yr effaith y bydd y swydd hon yn ei gael wrth greu Cymru wrth-hiliaeth.” Jafar Iqbal

“Mae hwn yn brosiect mor gyffrous, mae dim ond gweithio gyda’r panel ymgynghorol hyd yn hyn wedi bod yn addysgiadol, mae wedi agor eu proses recriwtio ar gyfer People Speak Up a Beyond the Border. Ymlaen â ni i’r ddau dîm a’r tîm newydd o weithwyr creadigol. Er mwyn i ni allu parhau i ddatblygu ein gwasanaethau chwedleua, gan greu llwyfannau amrywiol pellach i leisiau gael eu clywed - er mwyn i ni allu rhannu, gwrando a dysgu.” Eleanor Shaw, People Speak Up.

Am ragor o wybodaeth am Lwybrau Chwedleua Gwrth-hiliaeth ewch Llwybrau Chwedleua Gwrth-hiliaeth

Cefnogir gan

^
Cymraeg