body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Llwybrau Chwedleua Gwrth-hiliaeth

Cynllun ar y cyd rhwng Beyond the Border a People Speak Up.

Mae Llwybrau Chwedleua Gwrth-hiliaeth yn rhaglen newydd dwy flynedd i ymwreiddio arfer chwedleua gwrth-hiliaeth ar draws Cymru.

Bydd y prosiect yn gweld tair swydd Cyfarwydd Cyfoes ac un Cynhyrchydd yn gysylltiedig â Hwb Chwedleua Myseliwm, casgliad o bartneriaid sefydliadol a gweithwyr llawrydd yn gweithio i ddatgelu storïau a lleisiau sy’n cael eu clywed yn llai aml ar draws Cymru.

Bydd y Cyfarwyddion Cyfoes a’r Cynhyrchydd yn gweithio’n unigol a gyda chymunedau i ddatblygu rhaglenni wedi eu creu ar y cyd, sy’n dathlu’r storïau cyfoethog ac amrywiol o’n treftadaeth gyffredin. Bydd y rhaglen yn cael ei chefnogi gan bartneriaid sefydliadol gan annog hyfforddiant gwrth-hiliaeth ar ffurf celfyddyd a chynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth sefydliadol, gan weithio’n weithredol a chadarn ar wrth-hiliaeth.

This project will be delivered by a partnership between Beyond the Border Wales International Storytelling Festival and People Speak Up, two organisations with a strong track record of strengthening and showcasing diverse stories of communities in Southwest and across Wales, through the Mycelium Storytelling Hub.

What to connect to the team? Please contact on email

Mae’r Llwybrau Chwedleua Gwrth-hiliaeth yn bosibl gyda chyllid o Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru.

Dewch i gyfarfod y Tîm Llwybrau Chwedleua Gwrth-hiliaeth

Cyfarwydd Cyfoes (Chwedleuwr) - Bevin Magama
Cyfarwydd Cyfoes (Chwedleuwr) - Duke Al Durham
Cyfarwydd Cyfoes (Chwedleuwr) Phil Okwedy
Cynhyrchydd - Jafar Iqbal
Rheolwr Prosiect - Ayisha De Lanerolle

Cefnogir gan

^
Cymraeg