Bydd y Cwmni Syrcas o Bontypridd, Citrus Arts Citrus Arts, yn perfformio am y tro cyntaf yn Beyond the Border gyda fersiwn addas ar gyfer gŵyl o’u sioe'Savage Hart,' sydd wedi ei gwobrwyo.Bydd Citrus Arts yn dod a’u cymeriadau mewn masgiau ceirw i Ddinefwr. Ymunwch â nhw wrth iddynt ymlwybro a dawnsio ymhlith y rhai ddaeth i’r Ŵyl yn yr haul, a’ch gwahodd i lecyn arbennig yn y goedwig wrth iddi fachlud i rannu eu stori ymhlith tanau gwridog a cherddoriaeth..
Mae tîm Citrus Arts yn angerddol am rannu eu storïau personol am y modd y maent i gyd wedi cyrraedd BTB, a byddant yn cynnal gweithdai ar y sgiliau ymarferol sy’n angenrheidiol ar gyfer bywyd y syrcas a chreu celfyddyd yn yr awyr agored.
Bydd llecyn yn y coed lle bydd pobl chwilfrydig o bob oed yn cael dysgu am ein gwaith, baeddu eich dwylo wrth roi cynnig ar rywbeth newydd, a rhannu eich sgiliau a’ch storïau am fywyd creadigol gyda’r tîm.