body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Abbi Patrix

Artist - Abbi Patrix

Mae’r artist hanner Norwyaidd a hanner Ffrengig, Abbi Patrix, yn amlwg yn y mudiad Chwedleua Ewropeaidd, ac mae wedi bod yn archwilio’r grefft o chwedleua ers deg mlynedd ar hugain gyda’i Compagnie du Cercle.

Trwy weithio naill ai ar ei ben ei hun neu gydag artistiaid eraill, mae ganddo’r ddawn o gymysgu geiriau llafar â chyfryngau eraill fel dawns, cerddoriaeth a meim. Mae ei waith ar y groesffordd rhwng theatr, cerddoriaeth a symud, wedi ei gryfhau gan ddeunydd aml-gyfrwng, ac mae ar ymgyrch barhaus i chwilio am ffyrdd a lleisiau newydd i gyfoethogi’r chwedleua: crefft sydd yn datblygu ar gyflymder heddiw mewn nifer o fannau gwahanol yn Ffrainc a thramor.

Cefnogir gan

^
Cymraeg