body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Amy Douglas

Artist - Amy Douglas

Bu Amy Douglas yn ganolog o fewn tirlun chwedleua modern Prydain am y tri degawd diwethaf fel perfformwraig, hyrwyddwr ac eiriolydd. Mae ei thri chasgliad o straeon gwerin i gyd wedi derbyn gwobrau Storytelling World.

Ar ôl ennill ‘Chwedleuwraig Ifanc y Flwyddyn’ yn 16 oed. Daeth Amy yn brentis i’r chwedleuwr a’r canwr baledi Teithiol o’r Alban, Duncan Williamson, ac yn awr mae ganddi nifer o’i storïau a’i faledi ar fenthyg. Etifeddodd Amy hefyd drysorau o recordiadau rîl i rîl gan Duncan.

Pryd?
Sadwrn 11am: Glyndŵr – Travelling Together. BSL Tony Evans
Sadwrn 5pm - Easy Route Story Walk gyda Fiona Collins
Bydd Amy yn perfformio ei darn 'Travelling Together', yn disgrifio'r berthynas anarferol rhwng merch yn ei harddegau sydd yn dwlu ar straeon a Theithiwr Albanaidd blin. Atgofion am ddysgu gyrru, gwneud pegiau, yfed cwrw cryf ac ymdopi gyda cholli cwsg ynghyd â llif di-dor o straeon, cân a hanes.

Cefnogir gan

^
Cymraeg