A hithau wedi ei magu ar chwedlau mae Angharad Wynne o Sir Gaerfyrddin yn dilyn ei thraed a galwad y tir i ddod o hyd i hen storïau am y lle a meithrin y gwirioneddau oesol o chwedlau doethineb a geir ar draws y byd.
Er mai pennau bryniau, coed, mynyddoedd a chorsydd yw ei chynefinoedd chwedleua naturiol, mentrodd ar lwyfannau gwyliau ac i weithdai ar draws y byd, gan blethu storïau, cerddi a chaneuon.
Pryd?
Dydd Sad 7pm - Pabell Casglu – Talisman
Sadwrn 11pm: Gwneud a Dweud, Story Vigil for the Earth
Dydd Sul 2pm – Taith Stori’r Talisman
Talisman
(enw) gwrthrych, yn nodweddiadol modrwy neu garreg ag arysgrifen arni, y credir bod iddo rym hudol ac i ddod â lwc dda.
Mae Talisman yn blethiad o hanes a dirgelwch rhai o ddynion a merched hudol Cymru gyda storïau am gyfarfodydd arallfydol a bendithion a melltithion y Tylwyth Teg.