body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Associate Cyfarwyddion in partnership with People Speak Up – West Wales

Artist - Associate Cyfarwyddion in partnership with People Speak Up – West Wales

Phil Okwedy – Gorllewin Cymru
Yn gweithio o Ddinbych y Pysgod
Cyfarwyddion Cysywllt mewn partneriaeth â People Speak Up

Mae Phil yn chwedleuwr perfformio a chrëwr chwedlau sy’n tynnu’n fawr ar ei dreftadaeth ddeuol a’i nifer o ddiwylliannau. Mae’n perfformio’n gyson mewn clybiau chwedleua a gwyliau ar draws Cymru, yn ogystal ag yng Ngŵyl Kea yng Ngwlad Groeg a Gŵyl Fabula yn Sweden.

Cyfres o chwedlau gwerin o Gymru yw ei lyfr cyntaf, Wil & the Welsh Black Cattle sydd wedi eu plethu at ei gilydd a’u fframio o gwmpas chwedlau hen borthmyn y gorffennol.

Yn ddiweddar mae Phil wedi bod yn gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru ar Go Tell the Bees ac fe’i comisiynwyd fel rhan o raglen Cynrychioli Cymru, Datblygu Awduron o Liw Llenyddiaeth Cymru.

Deb Winter - Gorllwein Cymru
Cyfarwyddion Cysywllt mewn partneriaeth â People Speak Up

Mae Deb Winter yn chwedleuwraig ac awdur sy’n perfformio ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig. Cychwynnodd Deb chwedleua o ddifri ar ôl ennill y wobr ‘Yarn-spinner’ yn Slam Stori Bryste ac fe’i gwahoddwyd yn ôl gyda phedair sioe newydd yn Storyfest Bryste yn 2016 -19. Yn 2021 enillodd Wobr Esyllt Hawker i Fenywod sy’n Chwedleua yng Nghymru, ar y cyd â’r cerddor/chwedleuwraig Ailsa Mair Fox. Hi wnaeth sefydlu a hi sy’n cynnal Fishguard Strorytelling/Straeon Gwaun.

Yn ogystal â bod yn awdur a chwedleuwraig, bu Deb yn gweithio am flynyddoedd lawer yn y sector gwirfoddol, gan arwain cyrsiau hyfforddi i wirfoddolwyr, staff, ymddiriedolwyr a defnyddwyr gwasanaeth elusennau. Roedd yn arbenigo mewn cynyddu hyder, sgiliau cyfathrebu, siarad cyhoeddus, a sgiliau hyfforddi a threfnu grwpiau. Mae’n adnabyddus am gynnal gweithdai cefnogi sy’n groesawus i bawb. Arweiniodd Deb lawer o weithdai Sgiliau/Creu Chwedlau ac mae hefyd yn arbenigo mewn Gweithdai Ysgrifennu Creadigol bywiog. Oherwydd ei chefndir yn y sector gwirfoddol mae’n dod â’r profiad o weithio gyda phobl fregus i’w gwaith ym maes ‘chwedleua gweithredol’ fel Chwedleuwraig Gyswllt i PeopleSpeakUp a Beyond the Border.

Ar hyn o bryd, fel rhan o’i swydd fel Cyfarwydd, mae Deb yn creu sioeau ‘gwyrdd’ newydd, wedi eu hysbrydoli gan gariad at y gwyllt ac wynebu’r her o ddefnyddio chwedleua i godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd, gan weithio ar storïau newydd am y cynnydd yn lefel y môr, datgoedwigo ac effaith ‘ffasiwn taflu i ffwrdd’, mewn partneriaeth â grwpiau amgylcheddol. Mae hefyd yn creu cysylltiadau â grwpiau lleol i hyrwyddo’r defnydd o chwedleua ym maes iechyd meddwl a llesiant, yn neilltuol i bobl unig a/neu fregus.

Gweithgareddau yn 2022

Men In Conversation gyda Phil Okwedy
Men In Conversation gyda Phil
Deb Winter - Mycelium Storytelling Hub
beyond-the-border-logo
citrus-arts-logo
people-speak-up-logo
head-4-arts-logo
soar-logo

Cefnogir gan

^
Cymraeg