Mae Ben yn un o brif chwedleuwyr cyfoes y byd, gan greu a pherfformio gwaith a ysbrydolwyd gan chwedlau tylwyth teg, mythau ac epigau rhyngwladol.
Yn adnabyddus am ei berfformiadau chwareus, corfforol a heriol yn aml, mae'n ymddangos yn gyson ar lwyfannau mor amrywiol â'r Soho Theatre, Kings Place, yr Amgueddfa Brydeinig, Rich Mix, Globe Shakespeare, y Barbican, Northern Stage, York Theatre Royal a Gwyliau Llenyddol Cheltenham, y Gelli a Durham.
Gothig, moel a hudol – mae Ben Haggarty a’r cerddor Sherry Robinson yn rhoi bywyd newydd i bedair o chwedlau llai adnabyddus Grimm i deuluoedd, yn orlawn o ddrysau gwaharddedig, trawsnewidiadau, brad, dysgu gwersi, a phenglogau’n siarad! Mae Grim Grimms yn cyfuno chwedleua o’r safon uchaf a cherddoriaeth hyfryd.
Ar y Dydd Sul bydd Ben yn chwedleua ar ei ben ei hun i’r oedolion!
‘‘Dyma’r dos ffres o hud sydd arnoch ei angen yn eich bywyd’, ****EVERYTHING THEATRE
Pryd?
Saturday 6pm: Glyndŵr Family Tent, Grim Grimms Part 1 with Sherry Robinson. BSL (Tony Evans)
Dydd Sul 2pm: Glyndŵr Pabell Deuluol - Grim Grimms Rhan 2 gyda Sherry Robinson
Dydd Sul 10.30pm: Glyndŵr Pabell Deuluol, Straeon Tylwyth Teg i Oedolion: The Grateful and the Dead