body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Sweeny Untethered – Cath Heinemeyer & Gemma McDermott

Artist - Sweeny Untethered – Cath Heinemeyer & Gemma McDermott

Cath Heinemeyer & Gemma McDermott
Sul 9 Gorffennaf, 11.30am-12.30pm
Glyndŵr

SWEENEY UNTETHERED:

Hanes brenin Gwyddelig o’r 7fed fed ganrif a aeth yn wallgof, a thyfu plu. Gallai ddigwydd i unrhyw un.

Mae 'na lawer o egni Sweeney o gwmpas y dyddiau hyn. Ond beth sy’n digwydd pan fyddwn yn cael ein torri’n rhydd o’r lle’r ydym yn perthyn iddo? Byddwn yn eich arwain ar daith Sweeney, sy’n dorcalonnus yn aml trwy’r mannau mwyaf gwyllt yn Iwerddon, gan blethu canu acappella a gair llafar i’r stori i’n helpu i’w ddilyn!

"Dawn arbennig ac mae’n gwneud i chi feddwl! Canu hyfryd.”

"Tyner ond cadarnhaol, doniol a dilys."

"Perthynas ryfeddol hamddenol â’r gynulleidfa a’r harmonïau fel menyn!”

Adborth y Gynulleidfa

Mae Cath Heinemeyer yn chwedleuwraig a cherddor sydd â diddordeb yn y ffordd y gall storïau ein helpu i archwilio ein perthynas â’r byd naturiol a’r argyfyngau sy’n ein bygwth.

Mae’n treulio llawer o’i hamser ym Mhrifysgol Sant Ioan yng Nghaerefrog yn ymchwilio i gyfiawnder ecolegol ac yn dysgu myfyrwyr prifysgol sut i droi storïau yn berfformiadau.

Mae Gemma McDermott yn gantores acappella, nofiwr afonydd a charwr mannau gwyllt, sy’n canu gydag amrywiaeth eang o grwpiau lleisiol o ganu gwerin i ganu corawl i ganu arbrofol. Mae Gemma a Cath yn ddwy o aelodau’r pumawd acappella o Gaerefrog, The Barbarellas.

Cefnogir gan

^
Cymraeg