body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Csenge Zalka

Artist - Csenge Zalka

Rydym yn falch o groesawu Csenge Zalka, sydd wedi cael ei disgrifio fel chwedleuwr rhyngwladol cyntaf Hwngari. Mae’n teithio’r byd, yn rhannu llên gwerin Hwngari gyda’i chynulleidfaoedd (yn Saesneg, Sbaeneg a Hwngareg), ac yn mynd â’r holl storïau y mae’n eu dysgu yn ôl i Hwngari. Yn ogystal â pherfformio, mae’n awdur ac wedi cyflwyno dau ddigwyddiad TEDxBudapest yr un diwethaf yng Ngŵyl Sgizet.

Yng Ngŵyl Beyond the Border 2023 bydd yn perfformio a chyflwyno

Garabonciás School: Hungarian folktales of wizards, shamans, and witches
(Yn ddelfrydol i deuluoedd)

Mae byd chwedlau gwerin Hwngari yn gyforiog o hud a lledrith. Dewiniaid Garabonciás yn marchogaeth dreigiau, merched doeth yn trawsnewid yn fflamau, hen wragedd trwynsur yn llercian yn y coed... Maen nhw i gyd yn ymddangos yn y digwyddiad chwedleua hwn. Sut allwch chi ddofi draig? Ble’r aeth yr holl dylwyth teg? Beth os na fydd merch gwrach am fod yn wrach ei hun? Ymunwch â ni am y prynhawn, a bydd y chwedleuwraig Csenge Virág Zalka yn rhoi’r holl atebion i chi!

Feminist folktales: Old stories for contemporary audiences (Gweithdy)
Mae cynrychiolaeth mewn chwedleua'r un mor bwysig ag y mae yn y cyfryngau. Mae pwy yw ein harwyr, a sut yr ydym yn eu darlunio yn ein storïau, yn gadael argraff barhaol ar bobl. Mae’r gweithdy hwn yn dysgu chwedleuwyr sy’n dechrau arni a rhai profiadol sut i ddod o hyd i chwedlau sy’n amrywio eu repertoire ar hyd themâu ffeministaidd.

Dancing on Blades: Rare tales from the Carpathian Mountains (I deuluoedd ac oedolion)
Fwy na chan mlynedd yn ôl yn y Mynyddoedd Carpathaidd, roedd chwedleuwraig dalentog ac unigryw o’r enw Pályuk Anna. Mae’r perfformiad hwn yn rhoi bywyd i’r llên gwerin mwyaf hudolus a gasglwyd ganddi. Mae storïau Anna’n llawn o hud a lledrith a rhyfeddod: pobl yn cerdded ar gymylau, coed yn siarad a dewis brenhinoedd, tylwyth teg yn syrthio mewn cariad â phobl, moch yn hedfan, a charedigrwydd yn gallu achub teyrnasoedd. Mae’r chwedlau prin yma yn cynrychioli cymysgedd o ddiwylliannau o Transcarpathia, yn ogystal â grym dychymyg di-ben-draw chwedleuwr.

Cefnogir gan

^
Cymraeg