body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Cyfarwydd – Gillian Brownson – Anglesey

Artist - Cyfarwydd – Gillian Brownson – Anglesey

Mae Gillian yn Awdur, Bardd, Crëwr Theatr a Chwedleuwraig sy’n gweithio ar Ynys Môn.

Mae Gillian wedi bod yn adrodd storïau, ysgrifennu storïau a chanu storïau am y rhan fwyaf o’i hoes, ac yn ddiweddar dechreuodd eu darlunio hefyd. Bu’n gweithio yn Swydd Efrog, Llundain, UDA a Chanada ac mae’n awr wedi setlo yn ôl yng Nghymru lle cafodd ei geni, ac mae’r partneriaid yn cynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, BookTrust Cymru a Creu Conwy. Mae’n cael ei gyrru gan y weithred gymunedol o adrodd stori, a’r egni sy’n llenwi’r gofod pan fydd stori’n llifo rhwng y chwedleuwr a’r gwrandäwr, ac mae’n cael ei hysbrydoli’n ddwys gan chwedlau am rymuso sy’n dyrchafu cynulleidfaoedd i anelu’n uchel.

Mae Gillian yn un o breswylwyr balch Ynys Môn, lle magwyd hi ymhlith y chwedlau sy’n gysylltiedig â Barclodiaid y Gawres, Bedd Branwen, Ynys Llanddwyn a Llanddona ymhlith llawer mwy. Yn ei swydd fel Cyfarwydd, mae Gill yn anelu at gasglu rhai o’r storïau hyn, neu storïau eraill ym Môn sy’n byw ym meddyliau aelodau hŷn y gymuned, er mwyn i chwedleuwyr iau gysylltu â’u cartref ac ailadrodd y chwedlau o’u safbwynt hwy eu hunain. Mae Gill hefyd yn edrych ymlaen at greu perfformiad chwedleua newydd ar sail ei darganfyddiadau.

Gillian Brownson

Cefnogir gan

^
Cymraeg