body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Cyfarwydd – Kamalagita Hughes

Artist - Cyfarwydd – Kamalagita Hughes

Ganwyd a magwyd Kamalagita Hughes yn y Rhondda Fawr Uchaf ac mae ei theulu wedi byw yno ers cenedlaethau ac mae’n siarad Cymraeg.

Am yr wyth mlynedd diwethaf mae wedi gweithio fel hyfforddwr ymwybyddiaeth ofalgar a llesiant, mewn ysgolion yn bennaf. “Rwy’n credu bod sgiliau ymwybyddiaeth ofalgar o dawelwch a chanolbwyntio yn hanfodol i gyflwr meddwl iach a chreadigol i arweinwyr ysgol, staff a disgyblion. Rwy’n gweld chwedleua fel agwedd allanol y gwaith hwn: ffordd o fynegi meddyliau a theimladau, anghenion a gwerthoedd ac mewn ffordd sy’n cysylltu gyda’r byd. Bydd y chwedleua yng nghyd-destun ymrwymiad yr ysgol i fod yn glwstwr empathi.
Mae ysgolion yn ganolog i gymunedau - felly dylai’r prosiect gynnwys rhieni, teidiau a neiniau a gofalwyr i blethu ymdeimlad synhwyrol o berthyn.”

Mae Kamalagita yn hyfforddwr ymwybyddiaeth ofalgar, chwedleuwraig ac awdur. Cyhoeddwyd ei llyfr “The Mindful Teacher’s Handbook” yn 2022.

Cefnogir gan

^
Cymraeg