body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Cyfarwydd – Mair Tomos Ifans – Mid Wales

Artist - Cyfarwydd – Mair Tomos Ifans – Mid Wales

Mae Mair wedi bod yn chwedleua ers ugain mlynedd, yn canolbwyntio ar gyflwyno storïau, caneuon, ac arferion traddodiadol Cymru.

Wedi ei geni a’i magu ym Meirionnydd mae’n gweithio ledled Cymru a thu hwnt, ac ers Covid-19 mae wedi bod yn cyflwyno agweddau o’r diwylliant hynafol trwy’r dechnoleg newydd.

Yn ei gwaith i Hwb Chwedleua Mycelium bydd yn gweithio yn ardaloedd Mawddwy a’r Fawddach: rhan ddeheuol yr hen sir Feirionnydd. Mae’r ardal yn cynnwys y tir i’r de o Ddyffryn Mawddach, Bro Dysynni, Dyffryn Dulas a glannau gogleddol Afon Dyfi a Chwmwd Mawddwy.
Ebost: mair.ifans@btinternet.com

 

Ar y ffordd...

Storïau’r Gaeaf

Dydd Sadwrn 28 Ionawr
12 – 1pm yn Gymraeg 2 – 3pm yn Saesneg
Oriel Davies, Y Drenewydd.
Mair Tomos Ifans
Storïau yn ymwneud â Santes Dwynwen
Am ddim
Gwefan

Dydd Mercher 22 Chwefror
Oriel Davies, Y Drenewydd
Mair Tomos Ifans
Storïau Seintiau o Gymru (Cymraeg a Saesneg)
Am ddim

Cefnogir gan

^
Cymraeg