Daniel yw un o chwedleuwyr mwyaf poblogaidd Prydain ac mae’n awdur llyfrau plant sydd wedi ei wobrwyo.
Mae Daniel wedi diddanu cynulleidfaoedd dros y byd i gyd gyda’i berfformiadau gan gynnwys gwyliau chwedleua Vancouver, Oslo a’r Yukon, Gŵyl y Gelli, Beyond the Border, gwyliau Caerfaddon a Cheltenham ac mewn lleoliadau fel The Barbican, y Theatr Genedlaethol a’r Amgueddfa Brydeinig. Mae hefyd wedi gweithio ar deledu a radio, a chyhoeddodd chwech o lyfrau plant. Dyfarnwyd Medal Gŵyl y Gelli iddo am ei gyfraniad at chwedleua.