Bu David yn amlwg iawn yn adfywiad celfyddyd chwedleua yng Nghymru ers dros 30 mlynedd, fel hyrwyddwr, perfformiwr, a chyd-sefydlydd a Chyfarwyddwr Artistig Beyond the Border.
Adroddodd David storïau mewn cestyll, theatrau, parciau, llyfrgelloedd ac ysgolion ar draws Cymru, yn ogystal ag ymddangos mewn gwyliau rhyngwladol o gwmpas y byd, gan fynd â rhaglen o storïau i leoliadau yn yr Eidal, Sweden a Chymru yn 2019. Roedd David yn un o aelodau cyntaf Tales from BTB Storytelling Company ac ers dros ddeng mlynedd mae wedi cyd-gynnal Nosweithiau Chwedleua misol yn Iwrt Milgi, Caerdydd.