Band newydd sbon o’r Deyrnas Unedig yw GAVANI dan arweiniad y gantores Brydeinig-Indiaidd Deepa Shakthi a’r gitarydd Celtaidd Dylan Fowler gyda dau gerddor ifanc cyffrous Alex Lyon ar y clarinét a Jonno Gaze ar yr Offerynnau Taro. Mae cerddoriaeth y band yn amrywio o alawon gwerin traddodiadol a chlasurol o draddodiadau India a’r Gorllewin i ddeunydd gwreiddiol sy’n gymysgedd eclectig o arddulliau a dylanwadau Celtaidd ac Indiaidd yn bennaf. Ymddangosodd Gavani am y tro cyntaf yn llwyddiannus iawn yn hydref 2022 yng ngŵyl gerddorol St James Piccadilly yn Llundain ac maent am ymddangos mewn gwyliau ar draws y Deyrnas Unedig dros y misoedd nesaf.