body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Malcolm and Joshua Green

Artist - Malcolm and Joshua Green

Tad a mab sy’n gerddorion a chwedleuwyr. Gyda’i gilydd maent yn creu tapestri o storïau a chaneuon sy’n eich tynnu i mewn i fyd sy’n fwy-na-dynol.

Mae arddull perfformio Malcolm yn plethu gwyddoniaeth ecolegol, chwedlau a gwrthdaro. Mae’n gweithio gyda gwyddonwyr i gyfleu eu gwaith ac yn dysgu ym Mhrifysgol Newcastle.

Mae Joshua yn ganwr/gyfansoddwr a chwaraewr offer taro gan chwarae gyda Sam Lee, Super Best Friends Club a’r ddeuawd Lightning Sounds. Mae’n arweinydd gweithdai profiadol ac mae’n hwyluso’r Lawnmowers Independent Theatre Company.

Ddydd Gwener ymunwch â nhw ar gyfer Gone Cuckoo, taith aderyn eiconig, lle mae chwedlau a gwyddoniaeth yn cyfarfod a dilyn taith fudo anhygoel o Fylingdales yr RAF ar Weunydd Gogledd Swydd Efrog dros Libya a Chad i’r Congo.

Pryd?
Live Festival

Gwener 10pm: Glyndwr, Gone Cuckoo 7+

Dydd Sul 11am – Archwiliwch y byd mwy na dynol yn Ninefwr, gyda Malcolm wrth iddo gyd-arwain taith gerdded stori â phwyslais ar natur gyda’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt

 

Cefnogir gan

^
Cymraeg