Bu Mimesis yn gweithio fel chwedleuwraig broffesiynol yn Norwy ac yn rhyngwladol ers 1996. Yn ychwanegol at adrodd storïau, cyflogir Mimesis fel darlithydd cysylltiol mewn chwedleua yn OsloMet – Prifysgol Fetropolitan Oslo. Mae’n addysgu chwedleua ar lafar ar lefel baglor a meistr. Yn 2008 cyhoeddodd lyfr dysgu chwedleua yn Universitetsforlaget. Ysgrifennodd nifer o erthyglau academaidd am chwedleua. Ariannodd cynghorau celfyddydol lawer o’i phrosiectau chwedleua/celf. Yn ei gwaith artistig, mae’n canolbwyntio ar greu mannau cyfarfod rhwng y stori draddodiadol a rhai hunangofiannol.
Mae Kristin Bolstad yn gyfansoddwraig, cantores a pherfformwraig fyrfyfyr o Norwy. Mae ei cherddoriaeth yn aml yn gysyniadol, wedi ei nodweddu â gwaith byrfyfyr, elfennau perfformiol a hiwmor. Mae’n ceisio cyflwyno mynegiant gweledol a syml, ac yn hoffi archwilio haenau o sain a harmoni. Mae sain wedi bod yn ddiddordeb mawr i Kristin ac ers pan oedd yn ifanc iawn mae wedi dynwared popeth a phawb o’i chwmpas. Felly mae ei gwaith yn aml yn seiliedig ar sain, gyda gwead gwahanol yn ffurfio’r deunydd cerddorol.
Cyfansoddodd Krsitin ar gyfer ensembles a pherfformwyr amrywiol, a pherfformiwyd ei cherddoriaeth o gwmpas Sgandinafia, Ewrop, Canada ac UDA.
Pryd?
Online Festival Only
Adverse Camber productions presents
The premiere performance of
VÅR: the story of Hervor
Wedi ei greu a'i berfformio gan Mimesis Heidi Dahlsveen a Kristin Bolstad
The premiere of this livestreamed storytelling event, broadcast live from a beautiful
laftehus in a Norwegian forest. This one-hour live, online performance is part of a two-hour
immersive storytelling experience including a prologue, epilogue and informal ‘foyer’ session.
VÅR blends ancient Norse saga with autobiography, oral storytelling and electroacoustic music
in a captivating exploration of memory, loss, power, war and identity.