Sadwrn 8 Gorffennaf, 5.30pm-6.30pm
Glyndŵr
Mae cerddoriaeth Myrddin yn mynd trwy’r mêr a’r esgyrn ac mae’n gymhleth, angerddol o rythmig ac yn emosiynol ddwys. Mae’n feistr llwyr ar fflamenco, sy’n rhoi rhyddid iddo i ddefnyddio elfennau o jazz neu gerddoriaeth glasurol. Mae ei gyflymder weithiau’n ymddangos yn arallfydol, ond bydd pwy bynnag sy’n rhoi ei amser i wrando’n ddwys ar ei gerddoriaeth yn fuan yn dod o hyd i fyd anferth o emosiynau, harddwch a heddwch llwyr. Ar ôl chwe albwm a nifer o gyngherddau mae Myrddin yn profi nad oes raid i’r virtuosos gwych i gyd ddod o Sbaen.