body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

N’famady Kouyaté

Artist - N’famady Kouyaté

Music of West Africa
Sadwrn 8 Gorffennaf, 4pm-5pm
Casglu

N'famady Kouyaté yw Cyfarwyddwr Artistig The Successors of the Mandingue ac yn gerddor meistrolgar egnïol o Guinea, Gorllewin Affrica. O gefndir Malinké, fe’i ganed i deulu griot/djeli; lle mae gan y djeli gyfrifoldeb etifeddol am gadw’r diwylliant Mandingue traddodiadol trwy rannu hen rythmau, caneuon a storïau. Mae N’famady yn feistr ar y balafon, yn gantor, chwaraewr offer taro, ac yn chwarae nifer o offerynnau, ac yn sylfaenydd Les Héritiers du Mandingue (grŵp sy’n cyfuno cerddoriaeth draddodiadol Mandingue a modern yn Guinea). Mae N'famady yn awr yn byw yng Nghaerdydd, Cymru ac mae wedi bod yn gweithio ar nifer o brosiectau cerddorol unigol ac ar y cyd, yn ogystal ag arwain gweithdai cerddoriaeth.
Bydd yn perfformio yn Beyond the Border gyda Daniel Morden. Bydd hefyd yn rhedeg gweithdy drymio djembe fel rhan o’r penwythnos
Foto: Glitch Images

Cefnogir gan

^
Cymraeg