Mae Nuala wedi bod yn byw ac yn gweithio yn Eryri ers bron i 30 mlynedd yn gweithio ym maes addysg gan arbenigo mewn dysgu a hwyluso addysg awyr agored; mae ganddi straeon i’w dweud am yr anturiaethau mae wedi eu cael ar afonydd a’r moroedd ac yn y coedwigoedd a’r mynyddoedd.
Yn ddiweddar mae Nuala wedi bod yn ymchwilio’r gelfyddyd o adrodd straeon traddodiadol, gan ganolbwyntio ar straeon a chwedlau am afonydd a theithio, dan anogaeth Mair Tomos Ifans.