Fe’i disgrifiwyd gan gylchgrawn R2 fel ‘ffidlwr llawn mynegiant ac eithriadol’ mae’n cydweithio’n gyson â’r chwedleuwr Daniel Morden. Mae hefyd yn chwarae gyda’r chwaraewr acordion Luke Carver Goss mewn cyngherddau a gweithdai i blant ac i bobl sy’n byw â dementia. Fel cyfansoddwr mae wedi ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer cynyrchiadau llwyfan a dramâu ar BBC Radio 4. Mae hefyd yn chwarae ym mand swyddogol Noson Lawen ar S4C, lle mae’n cael digon o gyfle i ymarfer ei Gymraeg.