Ganed y gantores, chwedleuwraig, cynhyrchydd a’r dysgwr Cymraeg Claire Mace yn Aberdeen ac mae’n awr yn byw yng Ngwynedd. Mae wedi gwirioni ar hen ganeuon a storïau a’u grym i’n helpu i ddod o hyd i’n ffordd yn yr amser presennol.
Bu’n gweithio i’r BBC am ddeng mlynedd ar draws adrannau amrywiol fel cynhyrchydd i Newyddion y BBC ac ymchwilydd i Wyddoniaeth Radio’r BBC. Mae wedi bod yn cynhyrchu a hyrwyddo digwyddiadau ers dros bum mlynedd ar hugain. Mae ei diddordebau’n cynnwys piclo llysiau, dysgu ioga a dysgu am blanhigion meddyginiaethol.
Bydd Claire yn gweithio gyda chymunedau yn ac o gwmpas Bethesda i rymuso ac annog pobl i ddweud storïau, storïau eu teuluoedd eu hunain, a storïau sy’n ymwneud â’r dirwedd hanesyddol yn ddiweddar a’r oes a fu, trwy gyfuniad o recordio, hyfforddi, mentora a theithiau stori.
Dydd Sul 25 Mehefin 11am-1pm
Yn Neuadd Ogwen, Stryd Fawr, Bethesda Gwynedd LL57 3AN
Darganfod Storïau: Gweithdy Dweud Stori ar gyfer Dysgwyr Cymraeg
Ymunwch â’r storïwraig, bardd, iaith-garwr, saer geiriau a’r ddysgwraig Jo Munton am fore llawn hwyl o chwarae gyda geiriau a straeon i helpu meithrin eich hyder ymaith o drefn gaeth ystafell ddosbarth. Cewch eich ysbrydoli i fynd heibio’ch ofn, mwynhau eich geiriau a defnyddio eich Cymraeg llafar!
Tocynnau £15 (tocynnau £10 ar gael i fyfyrwyr, pobl ddigyflog).
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, archebwch yn www.anadlu.com