Yn gweithio yng Nghanolbarth Cymru – Aberhonddu i Wrecsam, Aberystwyth i’r Drenewydd.
Gyda chefndir mewn Hanes Celf ac wedi gweithio gyda phrosiectau a sefydliadau celf cymunedol, mae Rhian yn edrych ymlaen at weithio gyda rhwydwaith chwedleua yng Nghanolbarth Cymru a’i hehangu, gan wrando ar storïau hen a newydd, yn Gymraeg ac yn Saesneg a chreu rhaglen o ddigwyddiadau a gweithdai i archwilio storïau am fywyd bob dydd, chwedlau a llên gwerin gyda phobl o bob oed a lefel o brofiad chwedleua.
Mae ar gynhyrchydd Hwb Chwedleua Myseliwm eisiau clywed gennych chi!
Fel rhan o’n Hwb Myseliwm newydd rydym yn awyddus iawn i glywed am yr hyn sydd eisoes yn
digwydd yng Nghymru a sut y gallwn gefnogi a datblygu rhaglen o chwedleua. Rhian Davies yw ein cynhyrchydd yng Nghanolbarth Cymru ac mae’n gobeithio cynnal sesiwn fer, anffurfiol, i
rwydweithio ar-lein i gyfarfod a dysgu rhagor am waith a diddordebau chwedleuwyr lleol. Wrth i’r rhaglen chwedleua ddatblygu, hoffai gysylltu â chwedleuwyr lleol i gychwyn i’w cynnwys yn y gwaith prosiect ac i ddathlu artistiaid yn yr ardal.
O Aberystwyth i’r Drenewydd, Aberhonddu i Wrecsam.
Email: daviesrj.97@gmail.com
Dydd Sadwrn 4 Mawrth
Oriel Davies, Y Drenewydd
Deb Winter
Storïau natur a bydoedd eraill
Am ddim
Gwefan
19 March
RSPB, Lake Vyrnwy, Llanwddyn