Rydym wrth ein boddau bod Sally Pomme Clayton yn dod yn ôl i’r ŵyl yn 2023 gyda’i sioe unigol ysgafn yn ystod y nos i oedolion yn canolbwyntio ar storïau’r dduwies - The Mighty Goddess.
Chwedlau byd-eang chwyldroadol, annwyl, gwyllt sy’n dilyn y dduwies o fod yn greu i fod yn wrach. Bydd perfformiad Pomme yn arwain y gynulleidfa o enedigaeth hyd at farwolaeth i drawsnewidiad gyda chwedlau am chwantau a blys, pleser ac ofn, gwylltineb a distryw. Daw’r storïau o’i llyfr sydd ar y ffordd yn fuan ‘The Mighty Goddess’ (The History Press 2023) ac maent yn addas i oedolion yn unig!
I’r rhai sydd am weld Pomme yn ystod y dydd bydd hefyd yn perfformio Taith Stori - The Boy King’s Daughter. Elyrch forynion, merched aeth i ryfel, storc sy’n siarad a chors sy’n ysgwyd! Fersiwn Pomme o un o storïau tylwyth teg lleiaf cyfarwydd Hans Christian Andersen. Dysgwch pam bod corsydd yn cadw cyfrinach bywyd pobl ar y ddaear!