Gweithiodd Sarah fel cerddor gyda chwmnïau fel Kneehigh, London Bubble a Wildworks ac mae wedi ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer dramâu Radio’r BBC a nifer o gwmnïau theatr fel Travelling Light a Stuff & Nonsense.
Mae’n chwarae mewn bandiau amrywiol ac yn recordio fel cerddor sesiwn. Ochr yn ochr â hyn mae Sarah yn gweithio mewn lleoliadau cymunedol, gan roi cyfleoedd i’r rhai sy’n cymryd rhan archwilio eu natur gerddorol gynhenid.