body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Sarah Rundle

Artist - Sarah Rundle

Rydym yn falch iawn y bydd Sarah yn ymuno â ni yn Ninefwr, Sir Gaerfyrddin gyda thri pherfformiad.

Mae Sarah Rundle wedi dyfeisio gwaith i’r Cyngor Prydeinig, y Wellcome Foundation, Amgueddfa Geffrye, Gerddi Kew a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae wedi perfformio yng Nghaffi Stori Fabula Stockholm, Gŵyl Nivesh yn Delhi, Gŵyl Lenyddol Kolkata, Ffair Lyfrau Ryngwladol Sharjah, a Festival at the Edge.

Gwyliwch am y tair sioe yma yn yr ŵyl ym mis Gorffennaf.

Naughty Japanese Badgers (i deuluoedd)

Naughty Japanese Badgers (i deuluoedd) Maen nhw’n ddrwg, ac

maen nhw’n gwneud triciau drygionus. Maen nhw’n twyllo’r rhai sydd ddim yn ofalus ac yn camarwain teithwyr.

Maen nhw’n dwyn nwdls ac yn yfed llawer gormod o sake. Maen nhw’n esiampl ddrwg iawn wir. Sioe i’r teulu cyfan.

 

Rosamunda, Woman of the Lombards

Saif Dinas Euraidd mewn cors, wedi ei hamgylchynu gan Farbariaid.

Mae un fenyw yn dal tynged y cenhedloedd yn ei llaw - ond pa ddyn fedrith hi ymddiried ynddo?

Rhyfel. Gwaed. Gwenwyn. Penglogau. Dial. Rhyw. Cefn ar y mur. Mosaig. Cynllunio Trefol.

 

Women Who Bore Through Walls

Mae’n hen, hen stori: gwraig ifanc hardd, a gŵr cenfigennus. Cartref sydd wedi troi’n garchar.

Ond gydag amser, clyfrwch, ac offeryn metel miniog, fe wnaeth pedair

pedair menyw dyllu eu ffordd at ryddid a hwyl.

Pedair chwedl sy’n dathlu gallu menywod i ddianc, mwynhau bywyd

cael cariadon, a thwyllo eu darpar garcharwyr.

Cefnogir gan

^
Cymraeg