body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Saul Jaffe

Artist - Saul Jaffe

Newydd

Ganed Saul yn Simbabwe, a dechreuodd ei yrfa chwedleua unigol yn Globe Shakespeare, lle’r oedd yn artist cysylltiol am dros ddeng mlynedd. Fel actor, mae fwyaf adnabyddus am ei sioe un dyn “Merrick, the Elephant Man”, yr arweiniodd ei lwyddiant annisgwyl at ei wahodd i fod yn rhan o “Brits Off Broadway”, gŵyl Efrog Newydd sy’n dathlu y gorau o theatr Prydain. Perfformiodd hefyd yn rhai o theatrau pwysicaf y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y Birmingham Rep, Tricycle a’r Young Vic.
Gan ei fod ar hyn o bryd yn rhan o dîm sy’n datblygu darn newydd o dechnoleg y gellir ei wisgo, gan archwilio sut y gall chwedleua ymatebol, cerddoriaeth a thylino byw helpu’r defnyddwyr i frwydro yn erbyn gorbryder, straen ac unigrwydd, mewn amgylchedd ôl-bandemig.

Pryd?

Dydd Sadwrn 3pm – Citrus Village
The Ebony Scroll
Storïau am y sêr, casgliadau o sêr a phlanedau o ddiwylliannau ar draws amser a’r byd. O’r Maya i NASA, yr Iglwlig i’r Groegiaid, rydym yn rhannu tebygrwydd rhyfeddol a gwahaniaethau annisgwyl. Dewch i wrando ar storïau awyr y nos sydd wedi ymwreiddio yn y Sgroll Eboni sy’n ymagor uwch ein pennau bob nos.

Dydd Sul, 4 Gorffennaf 6pm: Citrus Village

And Then What Happens?
Pan fydd chwedleuwyr yn dod at ei gilydd gall pethau rhyfeddol ddigwydd, gan y bydd chwedlau un chwedleuwr yn gwneud i’r nesaf feddwl. Bydd llwybr y stori gyntaf yn ein harwain i goedwig o eiriau, cyn toddi mewn cefnfor o bosibiliadau, y bydd ein chwedleuwyr yn taflu eu storïau drosto. Ar gyfer y perfformiad hwn, bydd tri llais, na chlywyd gyda’i gilydd erioed o’r blaen, yn uno i lunio cymysgedd unigryw o storïau i gynulleidfa deuluol. Ac yna beth sy’n digwydd? Bydd raid i chi fod yno i gael gwybod.

Cefnogir gan

^
Cymraeg