Mae Sef wedi bod yn adrodd, rhannu a gwrando ar storïau ers mwy na phump ar hugain o flynyddoedd. Mae llawer o hyn wedi bod yn ymwneud â ffoaduriaid, ceiswyr lloches ac mewn prosiectau heddwch a chymodi yn y Deyrnas Unedig, y Dwyrain Canol a De Affrica.
Bydd yn adrodd storïau mewn mosgiau, eglwysi, synagogau, yn ogystal ag ysgolion, amgueddfeydd ac ambell ŵyl yma ac acw.
Mae ei waith diweddar wedi cynnwys nifer o deithiau cyffrous yn Ne America a Tsieina yn diddanu plant ac oedolion trwy gyfrwng stori, gemau, rhythm a chân, gan ddefnyddio’r cyfle i gynnal ei ymchwil ei hun i rai traddodiadau rhyfeddol o chwedleua a chanu.
Pryd?
Sunday 10am: Casglu Tent – Sef shares his experiences of stories in society. BSL (Tony Evans)
Dydd Sul 12 hanner dydd: Glyndŵr, Mamiaith - storïau mewn mamiaith
Dydd Sul 3pm – Citrus Village
Daw Sef a llond carafán o storïau addas i deuluoedd o’r tir rhyfeddol hwn; storïau am gelwyddgwn a lladron, am drawsnewidiadau rhyfeddol, am wragedd ffraeth, am drachwant a didwylledd, y cyfan (os bydd Covid yn caniatáu), i gyfeiliant holl ganeuon yr ardal.
Oedran 7+