body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Sherry Robinson

Artist - Sherry Robinson

Gweithiodd Sherry gyda Ben Haggarty am y tro cyntaf yn Beyond the Border yn 2003. Ers hynny mae wedi teithio yn gyson gyda Ben gan berfformio mewn gwyliau a lleoliadau trwy Brydain. Cyflwynwyd y rhaglen o Grim Grimms a berfformir yng ngŵyl BtB eleni am y tro diwethaf yn yr Hollywell Music Rooms yn Rhydychen fel rhan o’r ŵyl Lieder (Hydref 2019) ac yn theatr Soho, Llundain.

Gweithiodd Sherry gydag amrywiaeth o artistiaid perfformio, beirdd, dawnswyr a cherddorion ers tri degawd ac mae wedi bod yn creu cerddoriaeth ar gyfer storïau gyda Xanthe Gresham-Knight ers 1998.

A hithau’n byw yn Iwerddon erbyn hyn mae Sherry yn dysgu’r soddgrwth a’r bas dwbl ac yn perfformio gyda ArtsCareNI mewn wardiau a chynteddau ysbytai a chanolfannau dydd.
Mae’n aelod o’r triawd llinynnol o Felffast, Seefin, gan greu cyfansoddiadau wedi eu hysbrydoli gan y tir.

Pryd?

Dydd Sadwrn 6pm: Glyndŵr, Grim Grimms Part 1 gyda Ben Haggarty

Dydd Sul 2pm: Glyndŵr, Grim Grimms Part 2 gyda Ben Haggarty

Cefnogir gan

^
Cymraeg