body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Shona Cowie

Artist - Shona Cowie

Chwedleuwraig a hwyluswraig Albanaidd yw Shona y mae ei chefndir mewn Theatr Gymwysedig a’i hyfforddiant gyda L’Ecole Jacques Lecoq wedi cynnal gyrfa ryngwladol eang. Sefydlodd Shona’r cwmni addysg-stori Fosforo a theithiodd ar draws Ewrop a Thwnisia i ymchwilio a chyflwyno storïau am fudo o gwmpas Môr y Canoldir.

Ers 2018 mae wedi bod yn gweithio gydag arweinwyr Ewropeaidd ym maes Chwedleua Cymwysedig, The Village Storytelling Centre, a gyda nhw daeth yn un o 23 artist Glasgow yn rhaglen Preswyliad Cymunedau Creadigol y ddinas. Yn ddiweddar rhoddwyd cydnabyddiaeth i’w gwaith gyda phobl ifanc fel gwaith eithriadol mewn gwobr a roddwyd gan Ymddiriedolaeth Ddinesig yr Alban. Yn 2020 cychwynnodd Shona ar gyfnod preswyl dwy flynedd gyda The Simon Commuity Scotland, sefydliad sy’n cefnogi pobl sydd wedi profi digartrefedd. Mae wedi ymrwymo i ddwyn y bobl sy’n dueddol o gael eu gwthio i’r cyrion yn ein storïau i ganol y llwyfan.

Pryd?

SUL 10AM: Pabell CASGLU - Mae Shona yn un o’n prif chwedleuwyr yn ein CASGLU byw.

SUL 12 NOON: Glyndwr - Mamaith
Gwahoddiad i fwynhau’r cyfoeth o storïau yn cael eu dweud yn eu mamieithoedd, lle mae peidio â deall yn rhan o’r hwyl!

Sul 2pm: Taith Stori Talisman

SUL 6PM: Pentref Citrus – Ac yna beth sy’n digwydd?

Pan fydd chwedleuwyr yn dod at ei gilydd gall pethau rhyfeddol ddigwydd, gan y bydd chwedlau un chwedleuwr yn gwneud i’r nesaf feddwl.

Cefnogir gan

^
Cymraeg