Mae Siân yn berfformwraig ac ymarferydd celfyddydau cymunedol ar ei liwt ei hun. Cafodd ei magu yn Sir Fôn, yng nghanol straeon a chwedlau lleol. Mae'n awr yn eu defnyddio yn ei pherfformiadau, gan ddweud gwirioneddau beiddgar a rhannu ei hangerdd am gadwraeth y byd naturiol.
Mae ei chomisiwn newydd, Coed sy’n Siarad / Trees They Talk yn ymwneud â phwysigrwydd ein gwreiddiau a'r coed o'n hamgylch. Mae'n ddarn o chwedleua rhyngwladol wedi plethu gyda cherddoriaeth. Wrth ei graidd, mae ymchwiliad o goed, o'r ddaear, a'r gymuned o dan ein traed.
Mae Siân hefyd yn gantores/awdur caneuon ac yn ddiweddar wedi creu prosiect cerddoriaeth acwstig
deuawd Tagaradr, a phan oedd yn astudio yng ngholeg Goldsmith cafodd gyfle i berfformio gyda phedwarawd llinynnol, a'i hysbrydolodd i weithio gyda'r chwaraewr fiola ifanc Ynyr Pritchard sy'n ymuno â hi ar gyfer y perfformiad hwn.