Ysgol syrcas yw Syrcas Byd Bychan, sy’n gweithio o’r Small World Theatre ers 2017. Ar hyn o bryd maent yn canolbwyntio ar ddysgu dosbarthiadau cymunedol syrcas awyr i blant, pobl ifanc ac oedolion o lefel dechreuwyr i fyny. Mae’r rhain yn cynnwys dosbarthiadau wythnosol yn ystod y tymor ysgol, profiadau ysgol haf, a gweithdai/dosbarthiadau meistr unwaith ac am byth. Mae eu holl fyfyrwyr yn cael profiadau ar gymysgedd o offer ar hyd y tymor gan gynnwys trapîs statig, rhaffau/sidan a sling/hamog.
Bydd y gwaith ar y cyd rhwng Syrcas Byd Bychan a Citrus Arts yn ymddangos am y tro cyntaf eleni. Ond mae Hannah Darby, un o hyfforddwyr Syrcas Byd Bychan wedi perfformio gyda Citrus Arts ers 7 mlynedd.
Byddant yn gweithio gyda’r rhai sy’n dymuno mynd yn broffesiynol o’r dosbarthiadau cymunedol gan gydweithio gydag Artistiaid Syrcas profiadol i greu sioe ar gyfer y perfformiad ar y nos Sadwrn. Gan roi profiad i’r myfyrwyr o fywyd proffesiynol ar daith a chyfle i berfformio i gynulleidfa fawr yn yr awyr agored.
Sadwrn 9pm: Pentref Citrus