body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Tim Ralphs

Artist - Tim Ralphs

Yn faban roedd ei got yn gorffwys tu ôl i staciau uchelseinyddion mewn ceilidhs hwyr y nos. Yn blentyn roedd yn dilyn y chwedleuwyr, gan amsugno eu geiriau cyn eu hailadrodd ar y daith adref yn y car. Daeth i Beyond the Border y tro cyntaf yn 2007 fel rhan o gyfle i dalent newydd oedd yn dod i’r amlwg. Erbyn hyn mae wedi ei drwytho’n llawn ac nid yw cweit mor ifanc, mae’n dychwelyd, gyda’r un cariad bywiog at storïau a dull deinamig o berfformio.

Boed yn perfformio yn y castell urddasol Tiwtonig yn Alden Biesen yng Ngwlad Belg, i gaeau mwdlyd Swydd Amwythig yn y Festival at the Edge, i theatrau Soho a’r Barbican, mae cynulleidfaoedd Tim yn ei gael yr un mor gyfareddol pan fyddant yn bwyta teisen mewn caffi, yn eistedd o gwmpas coelcerth yn y coed, neu yn dawnsio yn wallgof wrth iddo adrodd ei eiriau i gyfeiliant roc arbrofol.

Pryd?

Friday 6.30pm – Family Tent – MC Imagine and reawake! BSL (Tony Evans)

Saturday 5pm – Outdoor Screen – Work in Progress
Mae arbrawf Chwedleua Tim, “King Arthur Sleeps in Cryogenic Storage”, yn gyfuniad ôl-apocalyptaidd o chwedlau Arthur, gweithredu amgylcheddol a cherddoriaeth electronig a chefndir sain.
Dydd Gwener 6.30pm – Pabell Teulu - MC Imagine and reawake! Dydd Sadwrn 5pm a Dydd Sul 11am – Sgrin Awyr Agored Mae arbrawf Chwedleua Tim, “King Arthur Sleeps in Cryogenic Storage”, yn gyfuniad ôl-apocalyptaidd o chwedlau Arthur, gweithredu amgylcheddol a cherddoriaeth electronig a chefndir sain. Mae triawd o arwyr annhebygol yn crwydro trwy’r anialwch, yn gobeithio y bydd arwr o’r cyn-oesoedd yn ail-godi, gan wynebu’r gwaith y bydd yn rhaid iddyn nhw, yn y pen draw, ei wneud Oedran 12+
12+

Dydd Sadwrn 2pm - The Hallows Queen Story Walk

Dydd Sul 11.45am: Gwenllian Y Babell Fawr
Can the Mountains Love the Sea 14+
Comedi Nordig - gwahoddir chi i briodas! Mae Cawres ddigyfaddawd tu allan sydd am ein lladd ni i gyd. Mae Loki’n mynd i wneud rhywbeth afiach gyda gafr. Ond mae’r cyfan er budd y briodas fwyaf annhebygol a wêl y byd erioed. Efallai eich bod yn meddwl nad yw’r briodas yn debygol o arwain at fyw’n hapus am byth, ond mae’r bwffe am ddim, boed waedlyd neu ddedwydd, fe fyddwn ni’n gwylio o’r seddi.

BSL (Tony Evans)

Dydd Sul 6pm Citrus Village

And Then What Happens?
Pan fydd chwedleuwyr yn dod at ei gilydd gall pethau rhyfeddol ddigwydd, gan y bydd chwedlau un chwedleuwr yn gwneud i’r nesaf feddwl. Bydd llwybr y stori gyntaf yn ein harwain i goedwig o eiriau, cyn toddi mewn cefnfor o bosibiliadau, y bydd ein chwedleuwyr yn taflu eu storïau drosto. Ar gyfer y perfformiad hwn, bydd tri llais, na chlywyd gyda’i gilydd erioed o’r blaen, yn uno i lunio cymysgedd unigryw o storïau i gynulleidfa deuluol. Ac yna beth sy’n digwydd? Bydd raid i chi fod yno i gael gwybod.

Cefnogir gan

^
Cymraeg