Saif TUUP am ‘The Unorthodox, Unprecedented Preacher’. Wedi’i eni yn Guyana a’i fagu yn Acton, mae ei arddull yn un hollol fyrfyfyr a gyflwynir gyda llwyth o garisma.
Ac fel petai na fyddai hynny’n ddigon, mae hefyd yn ysgrifennu geiriau ac yn lleisiwr i gywaith cerddoriaeth dawns dylanwadol iawn Transglobal Underground. Mae TUUP wedi perfformio ledled Prydain, Ewrop, Canol Asia, Asia a Gogledd a De America.
Bydd TUUP yn Beyond the Border 2023 gyda’i sioe, Children of the Sweet Water, sydd hefyd yn cynnwys cerddoriaeth gan ddau aelod o Transglobal Underground.