body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Bevin Magama - Hare & Baboon (Ionawr)

Mae’r chwedleuwr Bevin Magama yn edrych yn ôl ar ei brofiadau yn 2020 ac yn rhannu ei brosiect Ysgyfarnog a Babŵn gyda ni.

Beth yw'r prosiect?

Rwy’n teimlo mor ffodus i gael fy ngwahodd i rannu fy nhaith 2020 gyda Beyond The Border. Tua canol 2020, adeg pan oedd anobaith a theimlad o fod yn ddiymadferth yn fy llethu yn fy ymarfer creadigol, daeth llygedyn o olau ar fy llwybr. Fel y gwyddoch, oherwydd pandemig Covid, bu 2020 yn flwyddyn anodd i bawb ond yn fwy felly i ni weithwyr creadigol llawrydd. Y llygedyn hwnnw o olau oedd bwrsariaeth. Roedd bwrsariaeth Time = Money gan National Theatre Wales a Sefydliad Esmee Fairbairn Foundation yn hwb mawr. Gallwn yn awr ymchwilio a datblygu fy mhrosiect Ysgyfarnog a Babŵn, perfformiad chwedleua awr o hyd sy’n codi ymwybyddiaeth o faterion fel hiliaeth a bwlio a brofwyd gan ymfudwyr. Nod y themâu sy’n rhedeg drwy’r perfformiad yw ysgogi cydymdeimlad at eraill, dod â phobl ynghyd a chreu gofod diwylliannol galluogol i ddathlu gogoniant amrywiaeth ddiwylliannol.

Rwyf wrth fy modd fod datblygiad y darn yn dod ynghyd yn dda iawn. Mae’r National Theatre Wales wedi bod, ac yn parhau i fod, yn gefnogol iawn wrth rannu eu syniadau a’u harbenigedd mewn theatr. Y bwriad yw arddangos y darn hwn o waith yn Haf a Gwanwyn 2021.

I bwy yw e a sut gall bobl gymryd rhan ynddo?

Bydd Ysgyfarnog a Babŵn yn gweithredu i godi pontydd, gan ddod â chymunedau ynghyd, cyfrannu at gydlyniaeth gymdeithasol. Mae hwn yn brosiect sy’n anelu i iachau, ailgysylltu a dathlu ein dynoliaeth gyffredin i roi ystyr a gwerth gwirioneddol i Brydain Fawr. Prif fuddiolwyr y prosiect fydd y cyhoedd sy’n mynd i’r theatr, ymfudwyr a ffoaduriaid, pobl ifanc a phobl o gymunedau difreintiedig. Mae’r prosiect hefyd yn anelu i ddenu cynulleidfaoedd newydd ac amrywiol.

Dywedwch amdanoch eich hun mewn bywgraffiad byr. Sut wnaethoch chi ddechrau chwedleua? Pa mor hir fuoch chi’n gwneud hyn? Sut ydych chi’n gweithio gyda stori?

Cefais fy magu gan fy mam-gu a thad-cu mewn rhan wledig o Zimbabwe a drwyddynt hwy dysgais ddweud straeon yn ifanc iawn. Fel bachgen bach dywedwyd wrthyf ‘mae stori fel mynydd. Mae’n rhaid i ti ddechrau yn y gwaelod, mynd lan a lan, cyrraedd y copa, lle mae’r rhan fwyaf o’r cyffro yna wrth i ti fynd lawr y mynydd, dynnu allan neges y stori’. Dyma’r sail wrth i mi ddweud straeon. Rwy’n dweud stori drwy gyfrwng ysgrifennu, perfformiadau byw a theatr.

Rwy’n ddiolchgar iawn i Beyond The Border am eu hysbrydoliaeth. Drwy BtB y mae’r deng mlynedd diwethaf wedi fy llunio i fod y chwedleuwr yr wyf heddiw. Cyn 2009, nid oeddwn erioed wedi meddwl am ddefnyddio fy nhalent chwedleua i ennill bywoliaeth. Ond ar ôl cwrdd ar siawns yng nghlwb coffi Milgi lle’r oedd BtB yn cynnal digwyddiad yn 2009, wyneb hapus a llawen David Ambrose a Guto Dafis yn ei gap Andy Capp yn swyno’r cynulleidfaoedd gyda’i melodeon. Dyna’r tro cyntaf i fi fynychu digwyddiad chwedleua. O’r diwrnod hwnnw ymlaen roeddwn yn gwybod fy mod wedi canfod y ngalwedigaeth. Hanes yw’r gweddill. David Ambrose a Guto Dafis in his trademark Andy Capp enthralling audiences with his melodeon. That was my first time to attend a storytelling event. From that day I knew I had found my calling.  The rest is history.

Rwy’n mwynhau perfformio yng nghylchoedd chwedleua Caerdydd, mewn llyfrgelloedd, theatrau ac ysgolion. Perfformiais gyda National Theatre Wales yn “Border Game” (2014), City of the Unexpected (2016) gan Roald Dahl. Rwyf hefyd wedi perfformio mewn gwyliau mawr fel gŵyl Sting in the Tale yn Dorset, Lloegr (201) Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Johannesburg yn Ne Affrica (2016), Gŵyl Celfyddydau Harare, Zimbabwe (2018), Gŵyl Llyfrau a Chwedleua Nozincwadi, Durban, De Affrica 2018 & 2020.

Mae rhai o’r llyfrau a ysgrifennais ar gael ar Amazon a llwyfannau ar-lein eraill: Vicious (2013), Dreaming All Things Great (2016), Gross Misconduct (2018) ac, One Dead Zimbo Walking (2019).

Gweld y Cyfnod Clo - rhywbeth a welsoch ar-lein yr hoffech ei rannu ee fideo/podlediad/digwyddiad ar-lein sydd wedi eich ysbrydoli yn y cyfnod hwn?

Yn ystod y cyfnod clo cefais y fraint i weithio gyda’r wych a’r dalentog Ailsa Mair Hughes ar ei phrosiect ‘Mapio Sain Ein 5 Milltir Sgwâr.' Drwy’r prosiect, roeddwn yn teimlo gymaint wedi cysylltu gyda natur a ryw fath wedi ailgalibradu yn nhermau fy llesiant fy hun. Roedd yn chwa o awyr iach. Fe ysbrydolodd hynny fi i wneud fy map sain fy hun ar hyd yr afon Rhymni

Cefnogir gan

^
Cymraeg