body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Beyond the Border a Gŵyl Chwedleua Aberystwyth 2022

Fel rhan o’n rhaglen Hyb Chwedleua Mycellum, bydd Beyond the Border yn cymryd rhan yng Ngŵyl Chwedleua Aberystwyth rhwng 2-4 Medi.

Ynghyd â Gŵyl Chwedleua Aberystwyth a Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, bydd Beyond the Border a Hyb Chwedleua Mycelium yn cydweithio i sicrhau y gall yr ŵyl barhau yn ddigwyddiad blynyddol cyffrous, gan ddatblygu chwedleua ar gyfer artistiaid a chynulleidfaoedd, a chadw hynny yn unigryw i Aberystwyth.

Gweledigaeth Peter Stevenson, chwedleuwr, hanesydd straeon gwerin, darlunydd, artist yw Gŵyl Chwedleua Aberystwyth – gŵyl unigryw sy’n plethu ei yrfa a’i ddiddordebau eclectig gan gyflwyno gŵyl sy’n uno arddangosfa, perfformiad, llenyddiaeth a ffilm.

Bydd rhaglen Gŵyl Chwedleua Aberystwyth 2022 yn cynnwys Daniel Morden a Hugh Lupton, Cath Little a Chandrika Joshi, Michael Harvey a Pauline Down, Phil Okwedy, Fiona Collins, Frances Roberts Reilly, Ffion Philips, Deb Winter a Gillian Stevens, Carl Gough, y chwedleuwyr lleol Milly Jackdaw, Halo Quin ac Ailsa Mair Fox a’r cerddorion lleol Georgia Ruth a Iwan Huws. Cyflwynir y gweithdai chwedleua gweledol a llafar gan Ruth Koffer, Peter Stevenson, Valeriane Leblond a Maria Hayes.

Dywedodd Sandra Bendelow, Rheolwr yr Ŵyl, “Fel rhan o gynllun Hyb Mycelium rydym eisiau annog gwyliau lleol gyda chwedleua yn greiddiol iddynt. Mae Gŵyl Chwedleua Aberystwyth yn enghraifft wych o’r ffordd y gall gweledigeth a rôl chwedleuwr o fewn cymuned arwain at brofiad unigryw o’r celfyddydau. Rydym yn gweithio gyda Gŵyl Chwedleua Aberystwyth i helpu adeiladu dyfodol cryfach drwy gefnogi gyda chyllid a chyfleoedd gweithdy.

Mae Beyond the Border wedi llwyddo i sicrhau rhaglen gweithdai a gyllidwyd gan Ymddiriedolaeth Goffa Anna Evans ar gyfer Gŵyl Chwedleua Aberystwyth. Cynhelir gweithdai wrth ochr y rhaglen a byddant yn adlewyrchu natur aml-gelf yr ŵyl. Bydd gweithdai ar chwedleua, celf weledol, chwedleua gweledol yn cynnwys datblygu sgiliau chwedleua, defnyddio sgiliau chwedleua mewn naratifau ceadigol ar draws dulliau celf, darlunio, gwneud cranci a defnydd ehangach o chwedleua i ddeall a dweud ein straeon a’n naratifau ein hunain.

Mae’r gweithdai yn rhad ac am ddim i unrhyw un gyda thocyn penwythnos neu unigol. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer y gweithdai. Mae tocyn Pecyn Penwythnos yn £50, ac mae pris unigol ar sioeau hefyd. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn

https://www.aberystwythartscentre.co.uk/festivals/aberystwyth-storytelling-festival-pass

 

beyond-the-border-logo
Storytelling hub logo

Cefnogir gan

^
Cymraeg