body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Beyond the Border yn cyhoeddi rhaglen i gefnogi artistiaid a pherfformwyr llawrydd yn 2020

Mae Beyond the Border, prif Ŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru, yn cyhoeddi rhaglen newydd o waith ar gyfer y chwe mis nesaf, drwy’r cyfnod cloi ac i’r dyfodol gydag ymbellhau cymdeithasol i helpu ailddychmygu, ailddatblygu a chreu cadernid ar gyfer y sefydliad, chwedleuwyr, artistiaid ai gynulleidfaoedd.

Ym mis Mawrth, gwnaeth Beyond the Border y penderfyniad anodd i ohirio’r Ŵyl a drefnwyd ar gyfer eleni tan fis Gorffennaf 2021 oherwydd effaith COVID 19. Dechreuodd y sefydliad ar unwaith ar raglen o rannu straeon a chefnogaeth ar-lein, gyda phrosiectau ymgysylltu yn parhau mewn ffyrdd newydd, Nawr, diolch i gefnogaeth ychwanegol hanfodol o Gronfa Cadernid Cyngor Celfyddydau Cymru, caiff pump prosiect newydd ei lansio yn y chwe mis nesaf, gan osod y sylfeini ar gyfer rhaglen gynyddol i feithrin a datblygu chwedleua ar gyfer y tymor hirach

Dywedodd Naomi Wilds, Cyfarwyddwr Artistig, "Bydd y prosiectau newydd hyn yn ffurfio sylfeini gwaith a all ehangu ar draws amserlen neu gwmpas daearyddol yn y dyfodol. Mae chwedleua yn wych o hyblyg, a byddwn yn ymchwilio ffyrdd i ddod â chynulleidfaoedd ac artistiaid ynghyd, drwy ddulliau digidol, yna drwy ofodau gwledig ac awyr agored lle gallwn, gan greu rhwydweithiau teithio cryfach yn barod ar gyfer yr amser y bydd y prif ganolfannau’n agor eto. Byddwn yn gweithio gyda chwedleuwyr i ddatblygu sgiliau ac adnoddau newydd ac - yn hollbwysig - yn edrych am leisiau a chymunedau newydd i greu straeon newydd gyda nhw ymhell i’r dyfodol." 

Mae’r prosiectau hyn yn cyflogi chwedleuwyr, ymarferwyr creadigol ac arbenigwyr creadigol o amrywiaeth o ddulliau celf. Mae’r rhaglen yn dechrau gyda Casglu cyfres o ofodau ymgynnull, gwrando a chasglu lle bydd Beyond the Border yn gwrando ar chwedleuwyr, ymarferwyr creadigol, cydweithredwyr, pobl sy’n gweithio’n llawrydd, cynulleidfaoedd ac arbenigwyr i ddynodi ac ymchwilio pynciau yn cynnwys hygyrchedd i chwedleua awyr agored, trafod ystrydebau a dweud straeon Cymraeg.

Bydd y gofodau hyn hefyd yn ystyried defnyddio technoleg i greu profiadau chwedleua, ymgollol, rhyngweithiol ac agos atoch ar draws llwyfannau digidol gan ystyried sut y gellir defnyddio’r technolegau hyn i symud ymlaen i brofiadau chwedleua byw tebyg i droeon stori. Bydd y rhaglen hefyd yn dynodi anghenion hyfforddiant, datblygu a chreadigol a gwaith y gellir eu gyflwyno mewn cyfres o labordai creadigol ymchwiliadol Gofodau Sbeciannol. Bydd yn defnyddio straeon cartref newydd Beyond the Border, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr, a chwedlau, straeon a hanes a Dinefwr i blethu chwedlau a straeon personol.

Bydd Beyond the Border yn gweithio gyda’i bartneriaid yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr, the ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, perfformwyr llawrydd ac artistiaid i olrhain stori newidiol natur, yn Ninefwr a thu hwnt. Bydd un prosiect yn ymchwilio cyfraniad natur at lesiant a celfyddydau agored mewn byd sydd wedi ymbellhau’n gymdeithasol, gan edrych ymlaen at ddyfodol lle gall cynulleidfaoedd ymgynnull eto a rhannu straeon. Bydd datblygu profiadau chwedleua awyr agored hygyrch a sut y gellir defnyddio technoleg ddigidol i wneud troeon stori yn hygyrch i bobl gydag anableddau corfforol a nam ar eu golwg a chlyw yn rhan ganolog o’r prosiect hwn.

Galwad cyntaf Beyond the Border yw ar gyfer Lleisiau Newyddrhaglen mentora peilot i gefnogi chwedleuwyr newydd yng Nghymru, gan roi blaenoriaeth i artistiaid dwyieithog, Cymraeg, BAME ac anabl. Ei uchelgais yw tyfu ffrydiau datblygu artistiaid nid yn unig drwy rhaglen gŵyl Beyond the Border ond ar draws holl waith yr elusen. Gwahoddir y sawl sy’n cymryd rhan i lunio rhaglen gefnogaeth, wedi’i theilwra i’w hanghenion eu hunain, gydag ymgynghoriad ehangach i ddatblygu rhaglen hirdymor mwy helaeth.

Mae Beyond the Border yn ymroddedig i ddatblygu’r gwaith drwy bartneriaethau a rhwydweithiau newydd, gan weithio gydag amrywiaeth o gymunedau o amgylch Dinefwr a ledled Cymru. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd i BtB i ymchwilio ffyrdd newydd i deithio chwedleua, cefnogi chwedleuwyr llawrydd a gweithio i greu cydweithio gyda dulliau celf eraill, a chydweithio i greu dyfodol mwy cadarn ar gyfer chwedleua yng Nghymru.

"“Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i Gyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth i’r rhaglen hon, sy’n cynnig cefnogaeth hollbwysig i artistiaid y mae Covid-19 wedi cael effaith enfawr ar eu gwaith. Mae’r prosiectau hyn yn defnyddio themâu fydd yn dal i ddatblygu ac esblygu dros yr ychydig gylchoedd gwyliau newydd mewn ymateb i’r holl fewnbwn a gawn dros y chwe mis nesaf. Rydym yn dechrau gyda sgyrsiau ar-lein gydag artistiaid Casglu bob yn ail ddydd Gwener am yr ychydig wythnosau nesaf ac yn awyddus i glywed gan unrhyw sefydliadau sydd â diddordeb mewn cysylltu gyda chwedleua wrth i ni symud ymlaen.” meddai Naomi Wilds, y Cyfarwyddwr Artistig.

Dros yr wythnosau nesaf bydd Beyond the Border yn cyhoeddi manylion pellach am bob un o’r pum prosiect. Bydd Beyond the Border hefyd yn nodi dyddiad yr ŵyl a ohiriwyd yn 2020 gyda digwyddiad un-dydd ar-lein arbennig Ailddychmygu: Beyond the Border Ar-lein ar 4 Gorffennaf..

Mae Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border yn cael ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yr Uned Digwyddiadau Mawr, Ewrop Greadigol a’r Ffederasiwn Chwedleua Ewropeaidd.

Cefnogir gan

^
Cymraeg