Mae tîm Beyond the Border yn edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan yn rhaglen yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni. Bu twf yn ein rhaglenni Cymraeg a rhaglenni ar gyfer dysgwyr yng Ngŵyl Beyond the Border a buom yn datblygu ein partneriaeth gyda’r Eisteddfod Genedlaethol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Fel rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron byddwn yn dod â rhai o chwedleuwyr gorau Cymru i berfformio straeon ar gyfer oedolion, plant a dysgwyr. Dyma’r hyn sydd gennym ar y gweill rhwng 2-4 Awst.
1.30-2yh Maes D, Sesiwn i Ddysgwyr, Cwt Crefft: Fiona Collins & Ffion Phillips
Sesiwn i ddysgwyr- straeon byr
2.15-3yh Tŷ Gwerin, Stomp Stori: Fiona Collins, Ffion Phillips, Tamar Eluned Williams, Ceri Phillips, Gwilym Bowen Rhys, gyda Llio Maddocks yn llywyddu.
Rydym wrth ein bodd i gynnal Stomp Stori yn fyw wyneb yn wyneb yn dilyn ein partneriaeth ar-lein gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2021.
Bydd Stomp Stori yn cynnwys dau gylch o straeon 5 munud gyda chylch terfynol i benderfynu pwy sy’n ennill. Chi fydd yn penderfynu pa un yw’ch hoff stori ym mhob rownd.
10yh Ty Gwerin, Straeon Tywyll: Tamar Eluned Williams & Ceri Phillips
Straeon tywyll ar gyfer oedolion
Diwrnod y Dysgwyr
1.30-2.30 Maes D, Sesiwn i Ddysgwyr, Cwt Crefft: Tamar Eluned Williams, Fiona Collins, Jo Munton
Sesiwn chwedleua I ddysgwyr.
4-4.45 Maes D prif lwyfan/mainstage, Story Round/Cylch Stori: Rajesh David, Jo Munton, Fiona Collins
Sesiwn perfformio mwy ffurfiol gyda cherddoriaeth gan Rajesh.
1.30-2.15yh Maes D Cwt Crefft Straeon o Geredigion: Guto Dafis, Mair Tomos Ifans & Hedydd Hughes.
Straeon lleol o Geredigion a cherddoriaeth.
8.15-9yh Ty Gwerin, Straeon Mabinogi i Oedolion: Guto Dafis, Mair Tomos Ifans a Hedydd Hughes
Sesiwn cylch straeon o’r Mabinogi a cherddoriaeth ar gyfer oedolion.
Ewch i wefan yr Eisteddfod i archebu tocynnau ar gyfer ein digwyddiadau yn Eisteddfod Genedlaethol 2022