body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

BTB yn cydweithio gyda chwedleuwyr, yr Eisteddfod Genedlaethol a FatE i greu cyfres o ddigwyddiadau ar-lein ar gyfer cynulleidfaoedd ym mis Mawrth

Mae Beyond the Border – Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru – wedi uno gyda chwedleuwyr, Festival at the Edge (FatE) ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru i greu cyfres o straeon a digwyddiadau ar-lein wedi’u comisiynu ar y cyd ar gyfer cynulleidfaoedd ym mis Mawrth.

Yn ei gyd-comisiwn cyntaf, bydd Beyond the Border a Tŷ Gwerin yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod â chysyniad newydd sbon i’r Stomp Eisteddfodol traddodiadol y Stomp Stori gwledd o chwedleua lle caiff y gynulleidfa ddewis yr enillydd haeddiannol yn dilyn cystadleuaeth galed.

Bydd tair rownd o straeon yn Stomp Stori , bob un gyda thri o gystadleuwyr yn dweud stori am hyd at bum munud. Bydd gan bob rownd ei thema ei hun, gyda stori hapus neu ddoniol, stori drist a rownd o faledi cerddorol. Ar ddiwedd pob rownd, bydd y gynulleidfa yn pleidleisio dros eu ffefryn ac aiff yr enillydd ymlaen i’r rownd derfynol.

Bydd cyfuniad o chwedleuwyr, rhai yn wynebau profiadol ac adnabyddus ac eraill a allai fod yn cymryd rhan am y tro cyntaf – rhaglen amrywiol a chyffrous o bobl, yn cynrychioli lleisiau Cymru heddiw

Stomp Stori yn dod â pheth o dalent chwedleua gorau Cymru ynghyd ar gyfer y digwyddiad unigryw hwn yn y Gymraeg ddydd Iau 11 Mawrth am 8pm, ac mae’r ddau sefydliad yn gobeithio mai hwn fydd y cyntaf o lawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau chwedleua ar y cyd.

Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: “Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: “Rydym yn falch iawn i weithio gyda Beyond the Border ar y Stomp Stori gyntaf erioed, sy’n cyfuno’r Stomp Cymraeg traddodiadol gyda chrefft hynafol chwedleua i greu cysyniad newydd sbon, sy’n sicr o apelio at gynulleidfa’r Eisteddfod.”.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Beyond the Border, Naomi Wilds,Mae cyfoeth o chwedleua cyfoes yn ffynnu ar hyd a lled Cymru ar hyn o bryd gyda lleisiau newydd ac amrywiol yn dod i’r amlwg yn y Gymraeg. Rydym wrth ein bodd i ymuno gyda’r Eisteddfod i feithrin yr artistiaid hyn, dod â chynulleidfaoedd ynghyd a dathlu a rhannu cyfoeth diwylliannol mewn digwyddiad hwyliog a chyfeillgar. Mae’r potensial yn gyffrous am fwy o gydweithio ar ffurf ddigidol a chorfforol yn y dyfodol”..”

Bydd Beyond the Border a Festival at the Edge hefyd yn ymuno am eu digwyddiad cyfnewid rhyngweithiol rhyngwladol cyntaf gyda Dovie Thomason a Peter Chand a fydd yn rhannu taith chwedleua ddadlennol fel rhan o Two Indians – Striking the Empire Back ar 18 Mawrth am 8pm.

Yn ystod y noswaith, bydd Peter Chand – a anwyd yn India ac sy’n byw yn Lloegr – yn cyfnewid straeon a phrofiadau ar draws yr Iwerydd gyda Dovie Thomason, chwedleuwraig o dras cynhenid, y mae ei theulu’n dod o ardaloedd y Gwastadoedd Gorllewinol a’r Teithwyr Albanaidd. Gall cynulleidfaoedd glywed stori gyfarwydd mewn ffordd newydd, neu ffyrdd newydd a all anesmwytho a gall fod ofyn mwy o gwestiynau nag atebion.

Dywedodd y chwedleuwr,“Yn ein profiad ni, gall byd chwedleua yn aml rewi straeon cynhenid drwy lens gorllewinol disymud, gyda ffocws cul ar dybiaethau diwylliannol – gan gasglwyr, chwedleuwyr gwerin, anthropolegwyr ac weithiau gan chwedleuwyr hefyd..

Drwy gyfuno straeon gyda gwreiddiau dwfn â sgwrs agored a chymysgedd o hiwmor iach, byddwn yn ymchwilio peryglon yr un naratif yma ynghyd â’r hyn sy’n aml yn anweledig yn y niwl ôl-drefedigaethol.”.”

Ynghyd â rhannu straeon hynod, bydd Two Indians yn ymchwilio dirnadaeth ar ymweld o fewn eu cymunedau a pherthynas hynny gyda chrefft fodern chwedleua. Gan edrych tu hwnt i berfformiad, bydd y chwedleuwyr hyn yn ystyried ffyrdd y mae straeon yn cynnig cymaint mwy nag ennyd o ddihangfa.

Two Indians – Striking the Empire Back yn ddigwyddiad tocyn a gefnogir gan BSL gyda chapsiynau Saesneg. Mae gwybodaeth am docynnau ar gyfer Stomp Stori a Two Indians – Striking the Empire Back ar gael ar beyondtheborder.com neu drwy EventBrite.

Yn ogystal â’r ddau ddigwyddiad tocyn, bydd Beyond the Border yn rhannu straeon byr pum-munud ar eu gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol fydd yn cludo cynulleidfaoedd i dirluniau a bydoedd o bob rhan o Gymru a adroddir gan Cath Little ac Angharad Wynne.

Ddechrau mis Mawrth, caiff dull cyn-sinema o chwedleua a elwir yn cranci ei rannu gan Cath Little, sy’n byw yng Nghaerdydd, a’r artist Bronia Evers.

Mae Cold Blows the Wind yn faled hynafol o golli a dyfodiad o’r gaeaf a gyda Cath Little yn ei chanu a’i chyflwyno drwy cranci, panorama teimladwy hardd gyda darluniadau tu mewn i flwch theatr chwedleua traddodiadol a gynlluniwyd ac a wnaed gan Bronia Evers.

Yn nes ymlaen ym mis Mawrth, bydd Angharad Wynne yn cludo cynulleidfaoedd i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr, cartref gŵyl Beyond the Border, i rannu chwedlau o rai o’r gofodau rhyfeddol a golygfeydd godidog yng Ngorllewin Cymru. Bydd Angharad yn rhannu straeon byr i’w mwynhau a chysylltu gyda nhw ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal ag edrych ar wefan Beyond the Border.

Dywedodd Naomi Wilds, “Gyda’r dyddiau bellach yn ymestyn, cawn nerth o gysylltu gyda’n gilydd, felly rydym yn hynod falch i uno gyda phartneriaid, cynnwys popeth y gwnaethom ei ddysgu yn ein blwyddyn olaf o arloesi digidol a dal ati i feithrin syniadau newydd a greddfau creadigol artistiaid nad ydynt byth yn aros yn llonydd. Er ein bod i gyd yn ysu am ddychwelyd i ddigwyddiadau byw, mae’r gweithgareddau hyn yn ein helpu i beilota syniadau a dulliau gweithredu newydd fydd yn sail i raglen ein gŵyl yn 2021 a thu hwnt. P’un ai ydym yn cysylltu ar-lein neu’n gwerthfawrogi harddwch Dinefwr a gwaith artistiaid ar ffilm, mae cymaint o gyfoeth i’w ddathlu – ac edrychwn ymlaen at glywed gan ein cynulleidfaoedd pa elfennau y maent yn eu mwynhau fwyaf yn yr amrywiaeth o waith sy’n cael ei wneud a’i rannu.”

Cefnogir gan

^
Cymraeg